Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan geisio tynu eu sylw trwy ddweyd, "Dere di morwyn i, dere di morwyn fawr i," ond edrychai y buchod arni fel pe buasai fwystfil ysglyfaethus mewn ofn a syndod, ond ambeli i un dewrach na'i gilydd yn galw i fyny ei gwroldeb i sefyll er gwneud ymosodiad pan yr oedd y rhan luosocaf yn dianc am eu heinioes. Cerddau Mrs. Davies yn mlaen at un o'r rhai oedd yn sefyll, yn ddigon di feddwl ond dyma y fuwch yn rhuthro ati, a thaflodd Mrs. Davies y piser tuag ati a gwnaeth y goreu o'i thraed i ffoi, gan ddweud wrth y bobl oedd ger llaw, "Dyma andras o wartheg, dyn a'n cato ni, dyma wartheg ar yspryd drwg ynddynt." Diwrnod arall yr oedd hen wr o'r enw John Jones, o Mountain Ash, yn cerdded yn ddifeddwl heibio rhai o'r gwartheg, a dyma un o honynt yn rhuthro arno ac yn ei daflu i lawr, ond pan yr oedd hi yn ceisio ei guro a'i phen a'r lawr, cydiodd yr hen wr dewr yn ei dau gorn a'r gefn ar lawr, a chiciau hi yn ei thrwyn, nes yr oedd yn dda ganddi gael ei gollwng. Wedi ymgynghori dipyn a'r haner Indiaid oedd wedi dyfod i ganlyn y gwartheg o Patagones, deuwyd i ddeall mai arferiad y wlad oedd, os oedd eisieu dal buwch neu geffyl, fod dyn ar geffyl yn arfer taflu rhaff ledr am ben y creadur ac yna arwain y fuwch at bost oedd wedi ei sicrhau yn y ddaear, ac yna ei rhwymo yn dyn wrtho, cyn cynyg ei godro, ac os byddai yn wyllt iawn byddid hefyd yn clymu ei thraed ol. Bob yn dipyn daethpwyd yn gyfarwydd ar drefn hon, ac felly llwyddwyd i gael llaeth ac ymenyn.

PEN. VI.-SYMUD I DDYFFRYN Y CAMWY.

Daethpwyd i ddeall yn fuan nad oedd yn Porth Madryn le i sefydlu ynddo, o herwydd diffyg dwfr croew, ac felly ofer oedd gwneuthur un gwaith parhaol yn y lle. Tir tywodog a graianog sydd oddeutu Porth Madryn; nid oes yma na dyffryn, nac afon, na nant, nac yn wir un math o darddiad yn un man—tir gwael, yn llawn o fân lwyni o ddrain Yn lle colli dim