Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser, trefnwyd fod y dynion sengl a'r penau teuluoedd mwyaf llawrydd i fyned drosodd ar unwaith i'r Camwy. Yr oedd rhwng Porth Madryn a Dyffryn y Camwy lawn deugain milldir, ond nid oedd yma na ffordd na llwybr o fath yn y byd, am nad oedd neb erioed, mor belled ag y gwyddys, wedi bod yn teithio y ffordd hon heblaw Indiaid ar rhyw ddamwain. Yr oeddid yn gwybod pwynt genau yr afon Gamwy, yn ol y mapiau y pryd hwnw, ond nid oedd un o honynt yn gywir, ond môrlen Fitzroy. Beth bynag, trefnwyd i fyned yn finteioedd o ddeg neu ddeuddeg yr un; rhoddwyd i bob mintai un ceffyl i gario clud, cwmpawd i gymeryd y cyfeiriad priodol, ac ymborth a dwfr at y daith. Trefnwyd hefyd i lwytho ein bywydfad a lluniaeth, a'i anfon yn ngofal morwr medrus o'r enw Robert Neagle ac ychydig ddwylaw ereill ag oedd wedi arfer ar fôr. Yr oedd gan y cwch hwn tua 70 milldir o for o'r porth lle yr oeddym i enau yr afon. Yr oeddid wedi trefnu fod y minteioedd i gychwyn un diwinod ar ol eu gilydd, ac yr oeddid yn tybied na chymerasai iddynt ond dau ddiwrnod yn y fan pellaf i fyned o Borth Madryn i Ddyffryn y Camwy. Rhywfodd neu gilydd, ni chafedd y minteioedd hyn y cyfeiriad iawn, a bu iddynt golli y ffordd, a chrwydro, ac yn lle cyrhaedd yno mewn deuddydd, buont agos i bedwar niwrnod ar y paith. Dyoddefodd y minteioedd hyn galedi ar eu teithiau, yn benaf mewn angen dwfr ar y paith, wedi cyraeddo, ddiffyg ymborth. Er i'r cwch fyned allan o'r porthladd yn ddyogel, ac amgylchu pwynt Ninffas, trwy rhyw anffawd rhedwyd ef i'r lan, a methwyd ei gael allan drachefn i'r mor, a churwyd ef gan y tonau nes ei anmharu, ac wedi rhoi ei gynwysiad ar y traeth, a rhoddi hwyl drostynt, dychwelodd y dynion ar eu traed i Porth Madryn. Gwelir felly fod y minteioedd oedd wedi myned i'r Camwy, yno heb ddim bwyd, ond a allent bwrcasu eu hunain gyda'u drylliau. Buont yn byw ar rywbeth a allent saethu—llwynogod, ac adar ysglyfaethus creaduriaid nad oeddynt gyfreithlon dan gyfraith Moses, ond oedd yn gwneud y tro dan yr amgylchiadau, ac yn ddiameu genyf yn oddefedig gan yr Hwn sydd mor drugarog ag ydyw o santaidd. Yn mhen