Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychydig ddyddiau, cyrhaeddodd y fintai oedd yn dyfod ag oddeutu 800 o ddefaid drosodd o'r porthladd i'r dyffryn, felly cafwyd digon o gig defaid, ond nid oedd genym halen na dim arall i'w fwyta gydag ef, ond byddid weithiau yn ei ferwi yn nwfr y mor, neu ynte yn tywallt dwfr hallt arno wedi ei rostio. Wedi clywed y newydd am y cwech, penderfynwyd yn Porth Madryn anfon lluniaeth drosodd ar gefnau ceffylau, ond yr oedd y ffordd hon yn rhy anniben i gyflenwi angen y nifer ydoedd ar y Camwy, ac felly dychweledd amryw o'r penau teuluoedd yn ol i Borth Madryn, lle yr oedd yr ystordy a'r ymborth. Yr oedd y gwragedd a'r plant o hyd yn Mhorth Madryn, a llawer o benau teuluoedd erbyn hyn wedi dychwelyd o'r Camwy, a rhai heb fyned oddiyno o gwbl. Yr oedd rhai yn ystod yr amser hwn yn gweithio yn gyson ar y ffordd o'r porthladd i'r Camwy, a gwnaed tuag wyth milldir o honi y pryd hwnw. Erbyn hyn yr oedd yn y porthladd y llong "Ellen," eiddo Captain Wood, wedi dyfod yno gyda llwyth o geffylau. Penderfynwyd llogi y llong hon i gludo y clud a'r ymborth, a'r gwragedd a'r plant dros y dwfr i'r Camwy.

Yn ystod yr arhosiad hwn yn Mhorth Madryn, bu farw un wraig o'r enw Catherine Davies, o Landrillo, ger Corwen, priod Robert Davies, a rhoddodd Elizabeth, priod Mr. Morris Humphreys, enedigaeth i ferch, yr hon a elwid Mary, ac enwyd bryn ar y ffordd o Porth Madryn i'r dyffryn ar ei henw yn Fryniau Mary, am i rywun gael y newydd am ei genedigaeth pan yn croesi y bryniau hyn.

Cafodd y llong "Mary Ellen," wynt croes, a methodd ddyfod i mewn i'r afon am 17 niwrnod, ac yn ystod yr amser uchod, bu yn teithio llawer yn ol ac yn mlaen, a dyoddefodd y gwragedd a'r plant yn fawr iawn, a dyfethwyd llawer o'r ymborth. Yr achos penaf o'r dyoddefiadau ar fwrdd y llong hon oedd prinder dwfr i yfed ac i wneuthur bwyd, ac felly llawer o'r rhai gwanaf yn suddo i wendid o eisieu ymborth priodol. Collwyd baban neu ddau ar y fordaith hon. Methwyd cael lle i bawb ac i'r holl glud y tro hwn, ac felly gorfu gwneud ail fordaith, ond llwyddwyd y waith hon i ddyfod i mewn i'r afon mewn ychydig ddyddiau, ac heb golli neb na dim.