Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PEN VII. CODI Y FANER ARCHENTAIDD AR DDYFFRYN Y CAMWY.

Yn ystod yr wythnosau hyn, daeth atom mewn llong o Patagones ddau swyddog, yn nghyd a'u gweision, perthynol i'r Llywodraeth Archentaidd. Swyddog milwrol oedd un, Captain Marga, o Patagones, ac un Mr. Diag, tir-fesurydd o Buenos Ayres, oedd y llall. Yr oedd Captain Marga wedi d'od yma dros y Llywodraeth Archentaidd, i godi baner y Weriniaeth Archentaidd ar y lle, ac i roi caniatad ffurfiol i ni gymeryd meddiant o'r lle a'i sefydlu. Daethant drosodd o Borth Madryn ar geffylau, y rhai a ddygasent i'w canlyn yn y llong a'u cludai. Dygwyddodd wneud wythnos neu naw diwrnod o wlaw y pryd hyn, a thrwy fod nifer luosog o honynt yn teithio yn llinyn ar ol eu gilydd dros y paith pan oedd yn wlyb, gwnaethant lwybr amlwg, ar hyd yr hwn wedi hyny y gwnaed y ffordd, canys hyd hyny nid oedd pawb yn cadw at yr un llwybr. Y mae gallu mawr gan bobl wedi eu codi mewn gwledydd newyddion i dynu cyfeiriad syth hyd yn nod mewn lle hollol ddyeithr iddynt, ac felly gwnaeth y bobl hyn lwybr lled syth y tro hwn, er nad oeddynt erioed wedi bod yno o'r blaen.

Ar y 15fed dydd o Fedi, codwyd y Faner Archentaidd ar Ddyffryn y Camwy, ar lanerch gerllaw yr afon, tua phedair milldir i'r mor. Wedi i seremoni codi y Faner fyned drosodd, a chael tipyn o orphwys, dychwelodd y swyddog milwrol a'i weision yn ol i Patagones, ond arosodd y tir-fesurydd gyda ni i wneud ei waith. Codasid y Faner ar le a alwem ni yr Hen Amddiffynfa," darn o dir wedi cael ei gau i mewn a ffos gron ydoedd, ac yn mesur o 60 i 100 llath ar ei draws. Y mae hanes gwneuthuriad y ffos hon ar dafod leferydd, ond nid ydwyf yn gwybod am ddim yn ysgrifenedig ar y mater, ac felly nid wyf yn honi rhoddi hanes hollol fanwl am dani, na'r amgylchiadau. Yr hyn a glywais ydyw, i foneddwr o'r enw Jones ddyfod yma mewn llong, a nifer o ddynion i'w ganlyn tua'r flwyddyn 1853, gyda'r bwriad i ladd gwartheg gwylltion, er mwyn eu crwyn a'u gwer. Yr oedd Fitzroy yn ei hanes o Ddyffryn y Camwy yn dweyd fod y dyffryn yn llawn