Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hono yn awr wedi mynad heibio. Y mae genym hamdden yn awr i edrych o'n deutu i gael gweled pa fath le sydd yma, a beth yw adnoddau tebygol ein gwlad fabwysiedig. Y mae y dyffryn yn ymddangos yn un braf iawn o bob tu i'r afon, ac yn edrych yn hollol wastad, a'r afon yn ymddolenu fel neidr trwyddo nes ffurfio mân or-ynysoedd yma ac acw. Y mae yr afon gyferbyn a'n pentref o 80 i 100 llath o led, a choed helyg yn tyfu ar y glanan yn bur gyffredin, Rhyw olwg grinllyd, a diffrwyth sydd ar y dyffryn at ei gilydd, oddeithr yn y torfeydd a nodasom, y rhai sydd yn derbyn lleithder gan yr afon. Y mae dyffryn y Camwy oddeutu 50 milldir o hyd ac yn am. rywio o 3 i 4 milldir o led, weithiau fwy ac weithiau lai. Y mae y dyffryn hwn fel yn cael ei dori yn ddau trwy fod yr afon yn taro ar yr uchelder tua 25 milldir o'r mor ar yr ochr ogleddol, a thrachefn yn taro ar ucheldir deheuol rhyw 5 milldir yn uwch i fynu. Y mae o bwys i'r darllenydd gadw y ffaith hon mewn cof, am y byddaf yn nghorff yr hanes hwn yn cyfeirio at y sefydliad, fel dau ddyffryn sef yr isaf a'r uchaf, yn enwedig yn nglyn a'r camlesi dyfriol.

Yr oedd erbyn hyn dau neu dri mis wedi pasio, ac felly yr oedd yn rhy ddiweddar i fyned ati i hau, pe buasai genym y moddion priodol at hyny, ond gan ein bod bron i gyd wedi dod a hadau man, neu hadau gerddi fel eu gelwir hwynt yn gyffredin, aeth llawer ati i hau ychydig o'r rhai hyny, mewn lleoedd cyfleus a hawdd. Ond gan ein bod yn hollol anwybodus o natur eithafol sych y tir aoc o'r hinsawdd diwlaw, hauasom mewn lleoedd hollol anmhriodol, a'r canlyniad fu, ni thyfodd dim. Byddai yn well i ni cyn myned yn mhellach egluro ychydig yn nglyn a'r tymhorau. Y mae tymhorau Patagonia bron yn hollol gyferbyniol i dymhorau Cymru; mis Mai yw dechreu y gauaf, a Tachwedd ydyw dechreu yr haf. Arferiad Deheudir America ydyw hau yn Mai a Mehefin, a thrwy ei bod yn awr arnom ni yn ddiwedd Hydref, nid oedd dysgwyl i bethau dyfu cystal hyd yn nod pe bussem wedi ei hau yn y tir priodol. Dylid cofio pan yn adolygu dechreuad y Wladfa, a'r methiantau yn y blynyddoedd cyntaf, fod yn anhawdd iawn cael dynion oedd wedi arfer a gwlad mor wlyb a gwlawog a Chymru, ddod i ddeall ar