Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

unwaith pa fodd i amaethu gwlad berffaith sych, a bron hollol ddiwlaw, a'r ychydig wlaw hwnw yn hollol ddamweiniol, ac nid yn dymhorol fel yn ngwledydd y Dwyrain.

PEN. VIII.—EDRYCH I MEWN I'N SEFYLLFA A'N RHAGOLYGON.

Dymna ni yn awr wedi hel pob peth at eu gilydd; y cwbl sydd i'w ddysgwyl wedi cyraedd—yn wartheg, ceffylau, ac ymborth. Y mae yr unig long sydd o fewn ein cyrhaedd yn yr afon yn barod i gychwyn i ffwrdd tua Buenos Ayres, ac yna byddwn wedi ein gadael yn hollol ar ein penau ein hunain, a rhyw 170 o milldiroedd rhyngom a'r sefydliad nesaf atom, felly gwelir fod o bwys i ni beth yw ein sefyllfa i wynebu y dyfodol. Y mae yn awr yn ddechreu Tachwedd, ac felly, a chaniatai y byddwn yn llwyddianus i gael cynhauaf y flwyddyn nesaf—canys ni cheir cynhauaf y flwyddyn hon—y mae genym flwyddyn a phedwar mis cyn y gallwa ddysgwyl cael defnydd bara o'n hamaethiad ein hunain. Cyfarfu y Cyngor i edrych i mewn i'n hadnoddau. Cymerwyd amcangyfrif mor fanwl ag y gellid beth oedd gan bob un mewn ffordd o luniaeth, a pha faint oedd o luniaeth o bob math yn yr ystordy cyffredinol, a chafwyd allan nad oedd yn y lle o gwbl ond digon o ddefnydd ymborth am saith neu wyth mis, a'i ranu yn gynul iawn i bob un. Galwyd ar ein cynrychiolydd, Mr. Lewis Jones, i gael gwybod beth oedd ei syniad ef am y dyfodol, gan mai efe oedd wedi bod yn ymwneud a'r Llywodraeth, ac wedi pwrcasu yr oll oedd genym mewn llaw. Ond nid oedd gan Mr. Lewis Jones nemawr o oleg i'w roi ar y mater, gan nad oedd gandde olwg am gael ychwaneg o Buenos Ayres. Yr oedd yr oll o'r trefniadau a wnaed wedi eu gwneud ar y dybiaeth y buasema yn y lle yn ddigon buan i hau y tymor hwn, ac felly nad oedd angen darparu ond hyd Mawrth neu Ebrill, 1866; ac heblaw hyn, yr oedd yr holl eiddo oeddid wedi eu cael wedi eu prynu gan fasnachwyr yn Buenos Ayres a Phatagones ar goel gan Mr. Jones, gan nad oedd