Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Llywodraeth eto wedi addaw dim; a chan nad oedd golwg am fodd i dalu am yr eiddo oeddid wedi eu cael eisoes, nid oedd fawr calon gan Mr. Lewis Jones i fyned i geisio ychwaneg. Yn ngwyneb hyn, galwodd y Cyngor gyfarfod o'r holl fintai, er mwyn rhoi ar ddeall i bob un ei sefyllfa, a chael barn y llaws beth oedd oreu i'w wneud, a rhoi hefyd gyfle i'r goruchwyliwr, Mr. Lewis Jones, i roi adroddiad o'r hyn ydoedd wedi ei wneud, a'i fwriad yn nglyn a'r dyfodol. Cyfarfod dipyn yn ystormus fu hwn. Yr oedd tuedd greft yn y cyfarfod feio y goruchwyliwr am na fuasai y trefniadau yn helaethach, a rhai yn barod i'w gyhuddo o gamarwain yn yr addewidion a addawsid yn Nghymru, y rhai y dywedid y buasai y Llywodraeth yn eu cyflenwi Achosid y geiriau chwerwon a ddywedwyd o bob tu, gan anwybodaeth o du y bobl o'r gwaith o ymwneud a swyddogion y Llywodraeth, a chan ddiffyg profiad o du y goruchwyliwr o'r wlad, ae hefyd pa fodd i drin pobl mewn amgylchiadau o'r fath. Mewn canlyniad i'r anghydwelediad hwn, rhoddodd Mr. Jones ei swydd i fyny fel llywydd ac fel goruchwyliwr, yr hyn a achosodd ddiflasdod mawr, a phenderfynodd ef a'i briod, a brawd iddo ymadael gyda'r llong oedd yn barod i ymadael a'r lle. Mewn canlyniad i hyn, etholodd y Cyngor lywydd a goruchwyliwr newydd, yn mherson an Mr. William Davies, o Lerpwl—dyn o feddwl cryf, clir, ac o wybodaeth eang—dyn pwyllog a phenderfynol, ac yn selog a gweithgar gyda'r symudiad Gwladfaol. Penderfynwyd ei fod yntau hefyd i fyned i fyny i Buenos Ayres gyda'r llong uchod, er cael dealldwriaeth helaethach gyda'r Llywodraeth, a chael ychwaneg o ddefnyddiau lluniaeth i'r lle, yn nghyda gwenith a haidd tuag at hau. Ymadawodd gyda'r llong hon hefyd y personau canlynol, Dr. Green (ein hunig feddyg), Mri. William Williams, Lerpwl; John M. Thomas, Merthyr Tydfil; a'r Surveyor oedd wedi dyfod atom i fesur y dyffryn. Achosodd y sefyllfa hon ar bethau gryn anesmwythder mewn rhai pobl anmhwyllog ac ansefydlog ac ymunodd nifer o honynt i dynu allan ddeiseb a'i hanfon gyda'r llong hon at Raglaw y Falkland Islands, yr hwn oedd brwyad Prydeinig, yn erfyn am