Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r Llywodraeth Brydeinig ymyraeth a chael rhyw foddion i'n symud o'r lle i ryw diriogaeth odditan Faner Prydain. Yr oedd y ddeiseb hon yn camliwio pethau yn anghyffredin, ac mewn canlyniad i hon, bu gohebiaeth hir rhwng swyddogion Prydeinig y Falkland Islande, y Prif Lyngesydd yn Monte Video, a'r Cenhadwr Gwleidyddol yn Buenos Ayres, yr hyn a orphenodd mewn long ryfel Brydeinig gael ei hanfon i lawr o Monte Video yn mis Gorphenaf 1866 i edrych i mewn i sefylla y sefydliad ar y Camwy. Nid oedd ond nifer fechan wedi arwyddo y ddeiseb hon yn weithredol, ond yr oedd yr anesmwythwyr wedi ffugio rhai, a rhoi i lawr hefyd enwau nifer o fabanod. Yr hwn a flaenorai yn y mater hwn oedd dyn o'r enw Robert Williams, yr hwn oedd weinidog gyda'r Bedyddwyr gwr gweddw, ac un mab ieuanc gydag ef, a chan fod eu morwyn wedi eu gadael, a neb ganddynt i edrych ar ol eu ty, yr oedd ganddynt beth achos i gwyno ar yr amgylchiadau. Yn mhen tua blwyddyn, ymadawodd saith o'r deisebwyr, ond arosodd y gweddill; yn mysg y rhai a arosodd, y mae mab y Robert Williams y cyfeiriwyd ato. Y mae y ddeiseb, a'r enwau wrthi, ar gael yn adroddiad y llong ryfel Triton," am y flwyddyn 1866, yn nghyda llawer o ffeithiau ereill, ac y maent, y rhan luosocaf, yn gywir, ond lle y mae yr ysgrifenwyr yn gwneud sylwadau o'u heiddo eu hunain.

PEN. IX—Y GORUCHWYLIWR YN BUENOS AYRES.

Cafodd Mr. William Davies, ein goruchwyliwr, dderbyniad a sylw caredig oddiar law y Llywodraeth Archentaidd yn Buenos Ayres. Gan i'r bywydfad a fwriadwyd i fod wrth law i redeg i Patagonia, os byddai rhyw angen neillduol, fyned yn ddrylliau ar draeth y mor yr wythnos gyntaf wedi i ni lanio, nid oedd gan y Wladfa un math o gyfrwng cymundeb a'r byd bellach, gan nad oedd ffordd dros y tir wedi ei chael allan eto. Felly un cais at y Llywodraeth oedd, ar iddynt gael llong fechan at wasanaeth y sefydliad. Caniataodd y Llywodraeth 140p. tuag at brynu llong fechan, a rhoddodd boneddwr Seisnig o'r enw Mr.