Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth y llall. Yr oedd yr Indiad wethiau yn siarad eu iaith ei hun, a phryd arall yn siarad yr Yspaenaeg, ond yr oedd y naill bron mor ddyeithr i ni a'r llall, oddieithr ein bod yn clywed ambell i air yn bur debyg i ambell i air Lladin oedd ambell un yn ei gofio. Yr oedd yr Indiaid wedi arfer myned i Patagones—Sefydliad Yspeinig —i fasnachu, ac fel hyny wedi pigo i fyny ychydig o Yspaenaeg siarad cyffredin. Bob yn dipyn, daethom i allu deall yn weddol, mewn rhan trwy arwyddion, ae hefyd trwy fod y naill a'r llall o honom yn pigo i fyny ambell i air Yspaenasg, ac ambell i air hefyd o iaith y brodorion. Yr oedd pob peth mor belled ag y deallem ni yn heddychol a charedig oddeutu y teulu hwn, ond y pryder oedd rhag mai ysbiwr bradwrus ydoedd, ac y gallai fod yna fyddin gref i'w dysgwyl; ond wrth weled mis ar ol mis yn myned heibio, a dim cyfnewidiadau mewn dim, aethom i gredu, ac yr oeddym yn gywir, mai hen bobl ddiniwed oedd y rhai hyn, ac erbyn deall y cwbl, efe oedd un o brif lywyddion y wlad, o'r hon yr oedd Dyffryn y Camwy yn rhan, ac felly perchenog cyfreithlon y tir.

Bu ymweliad y teulu Indiaidd hwn yn fanteisiol iawn i'r Wladfa yn yr amgylchiadau yr oedd ynddynt y pryd hwnw. Yr oedd cigfwyd yn brin iawn ar y pryd, am nad oedd genym ddigon o anifeiliaid eto fel ag i allu lladd dim at ein gwasanaeth, a thrwy ryw anffawd, neu yn hytrach trwy ein hanfedrusrwydd o herwydd diffyg profiad, a'n dyeithrwch yn y lle, yr oeddym wedi colli yr oll o'r defaid yr wythnos gyntaf wedi cyraedd y dyffryn. Nid oedd ond nifer fechan o honom ychwaith wedi ymarfer a dryll, ac felly yn methu a chael gafael ar yr adar a'r anifeiliaid gwylltion oedd mewn cyflawnder o'n deutu, ond pan ddaeth y llywydd Indiaidd Francisco (canys dyna ei enw) i'n plith gyda'i gwn a'i ceffylau cyflym, yn nghyd a'i fedrusrwydd i hela, byddem yn cael llawer iawn o gig ganddo yn gyfnewid am fara a phethau eraill. Heblaw hyny dysgodd lawer ar ein dynion ieuainc pa fodd i drin ceffylau a gwartheg anhywaeth, trwy ddefnyddio y laso ar bolas (gwel yr atodiad) i'w trafod. Cawsom wersi pwysig hefyd yn y gelfyddyd o hela anifeiliaid gwylltion, ac mewn canlyniad daeth amryw o'n pobl ieuainc yn fuan yn helwyr cadarn.