Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tua chanol Gorphenaf, sef canol ein gauaf ni. Yr oedd teulu yr hen lywydd Francisco yn ein plith o hyd, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, a neb yn meddwl am ychwaneg o honynt i ddyfod atom, o lelaf hyd nes y byddai hwn yn ymadael i ddweyd pa fodd yr oedd efe wedi ymdaro. Ond rhyw ddydd Sul, pan oedd yr ysgrifenydd mewn ty anedd i fyny rhyw naw milldir o'r pentref yn pregethu tua thri o'r gloch y prydnawr, dyma ddegau o Indiaid oddeutu y ty. Hwn oedd y ty uchaf yn y dyffryn y pryd hwnw. Daeth rhai o honynt i mewn o'r tu fewn i'r drws, ac ereill o honynt yn edrych i mewn trwy y ffenestri. Gallwch feddwl i ddyfodiad sydyn cynifer beri cryn gyffro yn y cynulliad bychan, ac i'r ymwelwyr gael mwy o sylw ar unwaith na'r pregethwr, yr hwn a deimlai ar unwaith mai goreu pa gyntaf y tynai yr oedfa i derfyniad, canys nid oedd yntau mwy na'r gynulleidfa a'i galon yn broof i ofn. Barnwyd yn ddoeth i yru rhyw un ar unwaith i lawr i'r pentref i roi hysbysrwydd o'u dyfodiad, gan alw wrth bob ty oddiyno i lawr i ddweyd y newydd. Er fod corff y sefydlwyr yn byw yn y pentref, eto yr oedd rhai wedi adeiladu tai ar eu tyddynod, ac wedi myned iddynt i fyw. Daeth dau o'r Indiaid i lawr i'r pentref y noson hono i ganlyn yr ysgrifenydd, sef llywydd y llwyth a'i was, ond gwersyllodd y llwyth tua chwech milldir o'r pentref. Bu siarad mawr y noson hono o dy i dy yn y pentref, a phenodwyd ar nifer i gadw gwyliadwriaeth trwy ystod y nos, ac yn wir, nid wyf yn meddwl i neb gysgu yn drwm y noson hono. Daeth y boreu o'r diwedd, a phob peth yn dawel fel arfer ond cyn amser ciniaw yr oedd yr holl lwyth wedi codi eu pabellau gerllaw y pentref. Yr oedd yma 60 neu 70 o eneidiau, yn meddu deuddeg neu bymtheg o babellau, ugeiniau o geffylau, os nad canoedd rai, a llawer iawn o gwn. Yn mhen ychydig ddyddiau yr un wythnos, daeth llwyth arall i lawr ar yr ochr ddeheuol i'r afon (ar yr ochr ogleddol yr oedd y lleill), a gwer- syllasant hwythau gyferbyn a'r rhai blaenaf, ond fod yr afon cydrhyngddynt. Adwaenid y llwythau hyn fel llwythau Chiqi Chan, a Galatts, sef enwau y llywyddion, neu y penaethiaid. Yr oedd Chiqi Chan yn perthyn, efe a'i lwyth, i'r Indiaid a adnabyddid fel y Pampa Indiaid,