Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am y gwirod, ac yn cynyg bargeinion da am dano, ymdrechodd rhai gael swm pur fawr o hono erbyn y tymor nesaf y deuent i dalu ymweliad a ni, ac y mae yn iawn i ni addef i'r gwirodydd yn y dyfodol fyned yn brofedigaeth fawr yn nglyn a'r fasnach Indiaidd.

Er i'r minteioedd Indiaid hyn fod o dipyn o rwystr i'r sefydlwyr, trwy eu bod yn barhaus yn y tai, ac yn begio rhywbeth neu gilydd yn gyson, eto buont yn fantais dirfawr i ni ar yr adeg hon, trwy ein cyflenwi â cheffylau a ger marehogaeth, a rhoddi i ni lawer o gigfwyd yn gyfnewid am fara a phethau ereill. Gwerthent eu nwyddau y flwyddyn hon yn hynod o rad, y mae yn debyg am eu bod yn gweled nad oedd gan y Gwladfawyr nemawr ddim i roi am danynt. Prynid ceffylau yn rhad ceffyl am ychydig dorthau o fara ac ychydig aiwgr, pryd arall am ychydig latheni o gotwm a thorth neu ddwy. Wedi bod yn ein mysg fel hyn am rhyw ddau neu dri mis, ymadawsant, pob llwyth i'w fangre ei hun, gyda'r dealldwriaeth gereu cydrhyngom. Ond er i ni ymadael mewn heddwch, eto cawsom ar ddeall nad oeddynt i'w hymddiried fel dynion gonest, ond yn hytrach i'w gwylied yn barhaus, yn y ty ac yn y maes. Y mae fel yn ail natur iddynt ladrata, er yn gwybod nad yw yn gyfreithlon, canys cyflawnent eu lladradau yn y modd mwyaf cuddiedig a chyfrwys. Eto y mae yn iawn i ni gyfaddef fod rhai o honynt—rhai o'r prif ddynion— am roi ar ddeall eu bod yn rhy anrhydeddus i ladrata, a hyny yn fwy o falchder nag o dueddiad gonest.

Lladrataodd rhai o Indiaid yr ochr ddeheuol nifer o geffylau y flwyddyn hon, a diangasant i ffwrdd o flaen y gweddill, ond bu penaeth Galatts yn ddigon anrhydeddus i roi benthyg ceffylau, a rhoi arweinwyr i'r sefydlwyr i erlid ar eu holau, a buont yn llwyddianus i'w dal, a'u dwyn yn ol i'r sefydliad, ond yr oedd hyn i'w briodoli i raddau pell i ymddygiad ein llywydd ni ar y pryd, Mr. Wm. Davies, trwy iddo fod yn ddigon gwrol i ddangos nad oedd arnom ddim o'u hofn; ac os nad oedd y penaeth yn ymyraeth ac yn gweithredu i ddal y lladron, y byddai iddo ef a'i deulu gael eu cadw yn garcharorion, felly gwnaed pob peth i fyny mewn heddwch, ac ymadawyd yn gyfeillion.