Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ol yn fwy digalon ne anobeithiol na phan gychwynasent, yn sicr yn eu meddyliau nad oedd Patagonia, mor belled ag y gallasent hwy farnu, yn gymwys i'w phreswylio. Wedi eu dychweliad, galwyd cyfarfod eto dderbyn eu tystiolaeth, ac wedi clywed eu hadroddiad digalon, penderfynwyd fod i'r Cyngor weithredu ar unwaith i drefnu rhyw foddion i ni gael ein symud o'r lle i rywle arall yn y Weriniaeth, lle y gallem godi cnydau. Y pwnc cyntaf i'w ystyried oedd, pa fodd i fyned oddiyma o gwbl, am fod ein llong fechan wedi derbyn niweidiau trymion wrth ddyfod i mewn i'r afon wrth ddychwelyd o'i mordaith diweddaf, ac yn gorwedd yn ddrylliedig ar y traeth. Yr oedd genym yn ein mysg rai seiri oedd yn gyfarwydd a chychod a llongau, ac felly penodwyd ar ddau neu dri o honynt i fyned i'r traeth i edrych am y llong fechan, i weled a ydoedd modd ei hadgyweirlo yn gymwys i wneud mordaith i Buenos Ayres. Cafwyd ganddynt dystiolaeth ffafriol ar y fater, ac felly penderfynwyd myned ati o ddifrif ar unwaith. Yr oedd gerllaw genau yr afon, ac felly yn ymyl y llong ddrylliedig, amryw ddarnau o longau oedd wedi myned yn ddrylliau rhyw dro heb fod yn mhell, ac felly daeth coed a haiarn y rhai hyny yn ddefnyddiol i adgyweirio ein llestr ni. Galwodd ein llywydd bawb at y gwaith— rhai i gasglu coed i'w llosgi, i wneud charcoal at wasanaeth y gof, ereilli lifo darnau o'r trawstiau oedd ar y traeth, ac ereill i'w gweithio, a'r dynion nad oedd grefftwyr i gynorthwyo fel labrwyr, a thrwy gydweithrediad a diwydrwydd, erbyn canol Ionawr yr oedd y llong fechan wedi ei thrwsio i fyny, ac yn weddol gymwys i fordaith eto unwaith. Pwnc yr ymddyddanion y misoedd hyn ydoedd i ba le i fyned? Pob un yn darllen pob peth a gelai ar ddaearyddiaeth gwahanol wledydd, megys Awstralia, California, Brazil, Banda, Oriental, a hanes gwahanol dalaethau y Weriniaeth Archentaidd. Ond yr oedd ein tlodi yn rhwystr i ni feddwl am unrhyw. wlad tuallan i'r Werinaeth Archentaidd, am nad oedd obaith i ni gael unrhyw Lywodraeth yn barod i gostio ein symud. Pan oedd ein llong fel hyn bron yn barod, etholwyd mewn cyfarfod cyhoeddus ddau ddirprwywr i fyned at y Llywodraeth Archentaidd i geisio ganddynt ein symud i ryw ran arall o'r Weriniaeth, ac hefyd