Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwech o'r dynion mwyaf cymwys, yn ol ein barn ni, i fyned i edrych y tir a gynygid i ni, rhagi ni gael ein siomi y tro hwn eto. Gwnaed pobpeth yn barod. Y dirprwywyr oeddynt Mr. William Davies, ein llywydd, ac ysgrifenydd yr hanes hwn, a'r personau i edrych y tir oeddynt y Meistri Edwin C. Roberts, John Morgans, Griffith Price, John Roberts, Thomas Ellis, a Richard Eliis, a dwylaw y llong oeddynt Captain Robert Neagle, Mri. R. J. Berwyn, David Jones, a George Jones. Dyma bob peth yn barod, ac aethom allan o'r afon yn llwyddianus Ionawr 25, 1867, ac yr oeddym wrth angor o flaen dinas Buenos Ayres yn mhen wyth niwrnod. Aeth y ddau ddirprwywr i'r ddinas i aros yno mewn gwesty, er mwyn bod yn gyfleus i ymwneud a'r Prif Weinidog, Sef Dr. Rawson, ond arosodd y lleill i gyd ar fwrdd y llong, a chynaliwyd hwynt yno ag ymborth, trwy garedigrwydd y Prif Weinidog. Y mae y darllenydd yn cofio i mi adrodd, yn mhellach yn ol yn yr hanes hwn, am Mr. Lewis Jones, ein cyn—lywydd, yn ymadael o'r Wladfa o herwydd rhyw anghydwelediad rhyngddo a'r sefydlwyr, a hyny yn mhen tua thri mis wedi y glanio yn y wlad, ac o hyny hyd yr adeg hon, yr oedd wedi aros yn Buenos Ayres, gan fod yn arolygydd gwasg Seisnig yn y ddinas, sef Swyddfa y Buenos Ayres Standard"—papyr a gyhoeddir yn y ddinas hyd heddyw gan un Mr. Mulhall. Cafodd y dirprwywyr wrthwynebydd cadarn ynddo ef, sef Mr. Lewis Jones, yn eu hymwneud a'r Prif Weinidog yn nghylch symud y Wladfa. Gan mai efe, yn nghyda Captain Love Jones Parry, Madryn, oedd y rhai a anfonasid i edrych y wlad, ac iddynt hwythau ddwyn tystiolaeth mor ffafriol ir lle, ond yn awr y sefydlwyr am ymadael am nad oedd yn lle, yn ol eu barn hwy, yn gymwys i sefydlu ynddo, gellid tybio yn naturiol iawn y buasai efe yn gwrthwynebu, ac felly y gwnaeth yn egniol iawn. Trwy fod Dr. Rawson wedi bod mor awyddus o'r cychwyn i sefydlu Gwladfa ar y Camwy, ac wedi bod mor ffyddlon a charedig i'r sefydlwyr er cychwyniad y sefydliad, a hyny ar draul derbyn cryn anghymeradwyaeth oddiar law ei Lywodraeth, nid oedd yn anhawdd ei berswadio i goelio y goreu am y lle, a theimlo yn anfoddlon i symud Wladfa. Y ddadl ydoedd, nad oeddyn wedi gwneud