Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

digon o brawf, ac mai blwyddyn eithriadol oedd yr un a basiodd, a bod tymhorau sychion o'r fath yn dygwydd ar adegau mewn gwahanol barthau o Dde America. Yr oeddym ninau o'r tu arall yn tybio ein bod yn gwybod yn llawer gwell na'r Prif Weinidog a Mr. Lewis Jones, ac felly yn ddi-droi yn ol yn ein cais am gael ein symud. Y canlyniad o hyn fu i'r Prif Weinidog benderfynu anfon rhyw ddau o honom i lawr eto at y sefydlwyr, er cael sicrwydd trwy ddeiseb wedi ei harwyddo gan bob un mewn oed beth oedd ei ddymuniad, am ei fod yn ameu, fe allai, mai rhyw nifer fechan oedd yn anesmwytho. Buon fel hyn yn Buenos Ayres am tua thri mis cyn dyfod i un penderfyniad. Yn ystod yr adeg hon, buom yn gohebu a Llywydd Talaeth Santa Fe am ddarn o dir i fyny yno, mewn lle a elwid Bajaro Blanco, ac aethpwyd yno i'w edrych, ac yr oeddid yn bur foddhaus arno fel tir da, ond ei fod yn rhan o'r Dalaeth, ac felly yn anghymwys i ni gario allan y symuad o Wladfa Gymreig. Gofynodd Dr. Rawson i Mri. R. J. Berwyn ac Edwin C. Roberts, a'r ysgrifenydd i fyned i lawr i'r Camwy i ymofyn barn y sefydlwyr, a chydsyniasom ninau a'i gais. Yr oedd Mri. R. J. Berwyn a Edwin C. Roberts yn myned i lawr gyda chais oddiwrth Dr. Rawson am i'r sefydlwyr wneud un prawf ychwanegol, ac y caent ymborth am flwyddyn arall, ac hadau o wahanol fathau i'w rhoddi yn y tir, ac yr oedd yr ysgrifenydd yn myned i lawr gydag addewid llywydd Santa Fe, Mr. Orono, am dir yn Bajaro Blanco, ac yr oedd tynged y Camwy yn dibynu ar pa un o honom a gelai fwyaf o enwau.

PEN. XII.—Y DEISEBU A HELYNT Y SYMUD.

Y cwestiwn yn awr oedd pa fodd i fyned i lawr? Y mae yn wir fod ein llong fechan o hyd wrth angor yn y porthladd o flaen y ddinas, ac yr oedd Dr. Rawson am i ni fyned i lawr yn hon, ond yr oedd rhai o honom yn ameu a oedd y llestr bychan, oedd wedi myned dan adgyweiriad gyda defnyddiau a chyfleusderau mor wael, yn gymwys i ddychwelyd, yn enwedig gan ein bod bellach o fewn cyraedd digon o longau dyogel, fel