Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad oedd angen peryglu bywydau mewn llestr mor amheus; ac er mwyn bod yn ddyogel ac yn sicr, gofynwyd genym i'r gweinidog Prydeinig yn Buenos Ayres a anfonai efe saer llongau oddiar un o'r llongau rhyfel i wneud archwiliad arni, a rhoddi ei dystiolaeth i Dr. Rawson. Gwnaed hyn, a barnodd y swyddog hwnw ei bod yn anghymwys i fordaith ar y môr, ac mewn canlyniad, cytunwyd am ein cludiad ag agerlong oedd yn teithio rhwng Buenos Ayres a Patagones, yn ngbyda gorchymyn i swyddog y Llywodraeth yn Patagones ein danfon i lawr i'r Camwy mewn llong hwyliau oddiyno. Sefydliad yw Patagones o Yspaeniaid ac Italiaid, wedi ei ddechreu tua chan' mlynedd o flaen y sefydliad ar y Camwy. Erbyn i ni gyraedd Patagones, a thra yn aros am i'r llong hwyliau fod yn barod, cawsom wahoddiad gan foneddigion oedd yn dal tiroedd a meddianau mawrion yn y lle, i fyned i weled dyffryn yr afon Negro, gyda'r bwriad i'n henill i symud yno fei mintai, yn hytrach nag aros ar y Camwy na symud i Santa Fe. Y boneddigion hyn oeddynt Captain Murga y soniasom am dano eisioes, a brawd-yu-nghyfraith iddo, o'r enw Augirie, yr hwn oedd perchenog yr agerlong y daethom i lawr ynddi, a pherchenog y llong y bwriadem fyned gyda hi i'r Camwy. Rhoddodd y boneddwyr hyn i ni geffylau ac arweinydd at ein gwasanaeth, ac wedi teithio oddeutu can' milldir i fyny yr afon ar yr ochr ogleddol, dychwelasota ar yr ochr ddeheuol, wedi bod i ffwrdd dri diwrnod. Y mae y dyffryn hwn yn un pur fawr, yn fwy na dyffryn y Camry, ond yn ddigon tebyg o ran gweryd- yn sych a didyfiant, ond y trofeydd mawrion gerllaw yr afon. Dyma ni yn awr ar fwrdd y llong hwyliau a elwid "Bio Negro," Captain Summers yn llywydd arni, a dyn ieuanc o'r enw Lee hefyd yn dyfod i lawr dros y boneddigion uchod i dreio perswadio y bobl ar y Camwy i fyned i'w tiroedd hwy i sefydlu ar labnau y Negro, Cyrhaeddasom Porth Madryn yn ddiweddar yn Ebrill 1867. Yn ystod yr amser uchod, nid oedd neb o'r sefydlwyr ar y Camwy wedi gwneud dim ond meddwl pharotoi ar gyfer myned ymaith i rywle, er na wyddent eto i ba le. Y pethi cyntaf i'w wneud wedi i ni ddyfod i lawr oedd galw cyfarfod, a rhoi y tri chynygiad o flaen y Gwladfawyr, sef cynygiad Dr. Rawson