Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael gan y bobl aros ar y Camwy. Deallodd yr ysgrifenydd fod Mr Lewis Jones yn benderfynol i fyned i lawr i'r Camwy, er iddo gael gwybod fod corff mawr y Gwladfawyr am ymadael, a'u bod yn Mhorth Madryn yn aros y llong i ddyfod i'w hymofyn; a gwyddai yr ysgrifenydd, os elai Mr Lewis Jones i lawr, a rhoddi addewidion teg ac esmwyth o flaen y bobl, y byddai yn debyg iawn o lwyddo i berswadio rhai i aros ar y Camwy, ac felly wneud y gweddill yn rhy fychan o nifer i'w cyrchu i sefydlu mewn lle newydd. Teimlai yr ysgrifenydd mai y peth pwysicaf o bob peth oedd cadw y gwladfawyr rhag rhanu, fel ag i'w gwneud yn analluog i ffurfio cnewyllyn sefydliad newydd, ac os felly nid oedd dim yn eu haros ond cael eu gwasgaru yma a thraw yn Neheudir America, yn mhlith cenhedloedd o ieithoedd dyeithr, ac arferion paganaidd. Teimlai, er nad oedd Mr Lewis Jones ac yntau yn cydweled, nac yn gyfeillion, fod dyledswydd arno i roddi o'r neilldu bob teimlad personol, a gwneud yr hyn oedd oreu er lles dyfodol ei gydwladwyr ar y Camwy. Wedi rhai dyddiau a nosweithiau o feddwl a phryderu beth oedd oreu, penderfynodd yr ysgrifenydd fynu gweled Mr Jones, a chael siarad ac ystyried y mater yn ddifrifol, ac felly y bu; ac ar ol llawer o siarad ar y mater o bob tu, ac i bob un o honom foddloni i ymgysegru i les y sefydlwyr, penderfynwyd dychwelyd eto gyda'r llong fach i'r Wladfa, ac uno i berswadio y bobl i dderbyn cynyg Dr Rawson i wneud prawf o'r lle am un flwyddyn yn ychwaneg; ae os na lwyddid 'y flwyddyn hono, y celem long i'n cyrchu yn brydlon y tymor hwnw i Bajaro Blanco. Yr oeddym yn gweled fod yr amser wedi rhedeg yn mhell yn barod trwy yr oediadau uchod, ac erbyn yr elid a'r ddeiseb i fyny i Bueros Ayres, ac i'r llywodraeth ystyried y mater, a pharotoi llong i fyned i lawr ar fordaith yno, ac yn ol i Buenos Ayres, ac oddi- yno wed'yn i Santa Fe, ac i'r Gwladfawyr setlo lawr yno, y byddai yn beryglus iddi fyned yn rhy ddiweddar i hau y tymhor hwn, ac felly ein taflu i'r un sefyllfa ag y buwyd ar y Camwy. Yn wir yr oedd wedi myned yn rhy ddiweddar yn barod. Anfonwyd llythyr i Buenos Ayres at Dr Rawson i ddweyd yr amgylchiadau, ac hefyd lythyr at ein cydwladwyr oedd yn aros yno i ddysgwyl penderfyniad terfynol y Gwladfawyr. Dyma ni oll' eto ar fwrdd