Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y Gwladfawyr wedi bod yn Mhorth Madryn am tua deufis, ac yn cychwyn yn ol dechreu Awst, 1867. Yr oedd rhai o'r sefydlwyr wedi lladd eu hanifeiliaid, a halltu eu cig, gan nad oedd modd myned a hwy, i'w canlyn oddiyno; ereill wedi bod yn fwy pwyllog, ac wedi d'od a hwynt i'w canlyn i Borth Madryn. Tra yr oedd y Gwladfawyr yn Mhorth Madryn, daeth yr Indiaid i lawr fel arfer, ac wrth weled y tai ar y Camwy wedi eu gadael, rhoddasant dân ynddynt, er mwyn y difyrwch o'u gweled yn llosgi, fel erbyn i ni ddychwelyd nid oedd yno ond y gwelydi moelion, oddigerth nifer fechan nad oeddynt wedi rhoddi tan ynddynt. Aeth y penau teuluoedd eto unwaith drosodd i'r dyffryn, o flaen y gwragedd a'r plant, er gwneud tipyn o drefn ar y tai, a myned a'r clud a'r anifeiliaid drosodd; ac erbyn diwedd Awst yr oedd bron bawb wedi dychwelyd, ac yn eu cartrefi fel cyn iddynt ymadael. Wrth reswm yr oedd genym well ffordd o lawer y tro hwn na'r tro cyntat, ac wedi cyfarwyddo â'r wlad ac a'r ceffylau, fel na bu y dychweliad mor flin ac annyben a'n dyfodiad yma y tro cyntaf. Gan mai y bwriad oedd aros am rhyw naw mis, ac yna symud ymaith i Santa Fe, nid oedd neb yn teimlo fod y chwalu fu ar bethau, a'r lladd fu ar yr anifeiliaid, yn neillduol y gwartheg, yn rhyw golled fawr, ond yn unig dipyn o anfantais yn nglyn a llaeth ac ymenyn; ond fel y trodd pethau allan, colled fawr iawn fu y symud a'r chwalu hyn, ac effeithiodd ar rai am flynyddoedd.

PEN. XIII. ADOLYGIAD Y DDWY FLYNEDD A BASIODD.

Dwy flynedd ryfedd oedd y rhai hyn, ac wrth edrych yn ol arnynt, y maent yn ymddangos fel breuddwyd neu ffug chwedl. Nis gellir dweyd eu bod yn ddwy flynedd o ddyoddef mawr, ond eto yn llawn o ddygwyddiadau rhyfedd ac annysgwyliadwy, blynyddoedd anesmwyth, yn lawn o bryder yn gymysgedig o ofn a gobaith o'r cych- wyniad o Le'rpwl hyd yr Awst hwn. Yr oeddym wedi colii 44 trwy ymadawiadau i wahanol fanau, megys