Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Buenos Aires, Santa Fe, ond yn benaf i Patagones. Collasom hefyd 16 drwy farwolaethau. Collwyd dau o'r rhai hyn ar y paith, trwy golli eu ffordd a marw o newyn, sef David Williams, o Aberystwyth; a James Davies, o Bryn Mawr; ac un Jobn Davies, o Mountain Ash, trwy foddi yn yr afon with ddyfod i fyny wedi nos mewn cwch, a syrthio drosodd. Ganwyd 21 yn ystod y ddwy flynedd, a daeth deg atom.

Er mai dwy flynedd lawn o helyntion ac o helbul fuont, eto gwnaed llawer o waith ynddynt y naill ffordd a'r llall, megys gweithio ffordd rhwng Porth Madryn a'r dyffryn, codi tai, trin y tir drwy geibio a phalu, heblaw y teithio a'r chwilio fu ar y wlad. Yr ydym yn crybwyll y pethau hyn am y cybuddir y Gwladiawyr yn Adroddiad y Llywodraeth Brydeinig am y flwyddyn 1866 o fod yn ddiog, ac o herwydd hyny yn aflwyddianus. Y mae ysgrifenydd y llinellau hyn wedi darllen holl adroddiadau y llywodraeth Brydeinig, ac y maent yn awr o'i flaen; a chan ei fod yn y sefydliad o'r cychwyn cyntaf, ac yn llygad—dyst o'r cyfan, y mae mewn ffordd i weled y camesniadau a'r camadroddiadau, ac yn dymuno sicrhau hanesydd y dyfodol, mae y ffeithiau fel eu hadroddir yn yr hanes hwn ellir dibynu arnynt.

Ein sefyllfa Gymdeithasol yn ystod yr adeg hon.—Er holl helyntion ac anffodion y tymor hon, diargedd y Wladfa rhag unrhyw alanastra gofidus mewn ymafaelio nac ysbeilio. Cadwyd heddwch a threfn i fesur belaeth a chanmoladwy iawn, ac nid anghefiodd y rhan luosocaf eu rhwymedigaethau i grefydd a moesau da. Cyfeiriwyd yn barod at y Cyngor amryw weithiau. Ein furflywodraeth oedd llywydd, deuddeg o gyngor, ynad heddwch, yegrifenydd, trysorydd, a chofrestrydd. Yr oedd genym ddau lys barn, sef Llys Rhaith, a Llys Athrywyn. Yr oedd genym hefyd gnewyllyn cyfansoddiad gwladol gwerinol, ac ychydig o gynseiliau deddfwrol, neu mewn iaith gyffredin, yr oedd genym ychydig o reolau sylfaenol, wrth ba rai y gallem o dro i dro, fel y byddem yn cynyddu a thyfu, wneud cyfreithiau, a threfnu cosbau wrthynt. (Gwel attodiad). Bu y trefniadau syml uchod yn gymhorth mawr i gadw trefn, a chymydogaeth dda.