Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oeddid hefyd cyn cychwyn o Lepwl wedi argraffu nifer luosog o arian papyr yn y ffurf o nodau punt, deg swllt, a phum swllt. Wele isod adlun o honynt :—

RHIF 169.——————16/12/65.
Mae Gwladychfa Gymreig Patagonia yn cydnabod
y Nodyn hwn am un Bunt o Arian Cylchredol.
Y WLADFA
Thomas Ellis.
GYMREIG.

Yr oedd geiriau y Wladfa Gymreig wedi eu rhoddi, a Stamp ar enw yr ysgrifenydd gydag ink glas. Bwriedid i'r nodau hyn fod yn gyfryngau cyfnewid yn y Wladfa am dymor, hyd nes y byddai i'r Cyngor, fel yr amcenid y pryd hwnw, gael hamdden i ymgymeryd a rhyw waith cyhoeddus, a roddai elw iddo, megys gweithio guano, neu rywbeth arall, ac wedi cael arian caled i'w ddwylaw, galw i mewn y nodau papyr, a rhoddi eu gwerth, neu yn hytrach y swm a nodid arnynt, yn arian caled i'r sefydlwyr, am mai at wasanaeth y Cyngor yr oedd y nodau hyn, fel y gallent dalu am lafur cyhoeddus o bob math. Gyda'r arian papyr hyn y telid am weithio ffordd, am weithio y llong a'r cychod, a phob gwasanaeth cyhoeddus a wnaed, ac â'r arian hyn y prynid yn ystordy y Cyngor. Ond bu y methiantau a ddilynodd y Wladfa am y blynyddoedd cyntaf yn rhwystr i'r Cyngor allu gwneud dim o'r pethau fwriadai, ac felly syrthiodd yr arian papyr i'r llawr yn hollol ddiwerth. Ond gan fod bron bawb wedi bod yn prynu yn ystordy y Cyngor y misoedd cyntaf, a chan fod y gwaith cyffredinol yn fantais i bob un oedd yn y wlad, nid oedd gan neb nemawr achos i gwyno, am na chafodd arian caled yn eu lle. Y mae yn wir i rai weithio mwy nag ereill o'r gwaith cyhoeddus, fel yr oedd y rhai hyny wedi rhoi mwy nag ereill i'r lles cyffredinol; ond fel hyny y mae yn mhob gwlad, ond nad yw mor amlwg a phendant. Y mae y dyn sydd yn gweithio ac yn cynhyrchu yn rhoi i'r lles cyffredinol, pan nad yw yr hwn sydd yn cardota yn rhoi dim.