Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Masnach. Nid oedd genym yn ystod y ddwy flynedd hyn fawr drefn ar fasnachu, cyfnewid oedd pob peth mewn ffordd o fasnachu. Nid oeddym wedi cynyrchu dim ein hunain ond ychydig o wenith gan rhyw haner dwsin o deuluoedd, ddechreu 1867, ond yr oeddym yn cynilo y gyfran a roddid i ni gan y llywodraeth, mewn ffordd o ymborth, er gallu masnachu âg ef a'r Indiaid, trwy gyfnewid bwyd am bluf a chrwyn, a chyfnewid y rhai hyn drachefn am ddefnyddiau dillad, a phethau priodol i fasaachu â'r brodorion. O'r nwyddau hyn oedd genym, megys nwyddau Indiaidd, defnyddiau ymborth a dillad, y byddem yn talu am waith ein gilydd, ac yn newid y naill nwydd am y llall. Fel hyn y telid y crydd, a'r teiliwr, a'r sadler,—rhoddai un bluf am ymenyn, ac arall wenith am drwsio ei esgidiau, ac felly gyda'n holl anghenion.

Ein Sefyllfa Grefyddol.—Yr oedd corff y fintai gyntaf yn proffesu crefydd, a'r oll o honi wedi arfer a mynychu lleoedd o addoliad tra ya Nghymru. Yn yr ystordy gwenith yr arferem ymgynull yn Sabbothol ac wythnosol, a'r sacheidiau gwenith oedd yr eisteddleoedd. Yr oedd yn y fintai gyntaf dri phregethwr, dau yn perthyn i'r enwad Annibynol, sef y Parch Lewis Humphreys, myfyriwr yn Ngholeg y Bala, (genedigol or Ganllwyd, ger Dolgellau), ac ysgrifenydd yr hanes hwn, ac un yn perthyn i'r Bedyddwyr, sef Robert Meirion Williams, yntau yn enedigol o Feirionydd. Annibynwyr a Methodistiaid Calfinaidd oedd y rhan luosocaf o'r dyfodwyr cyntaf, ond yr oedd yn ein mysg eithriadau o Fedyddwyr, Trefnyddion Wesleyaidd, ac aelodau o'r Eglwys Wladwriaethol yn Nghymru. Cynelid genym ar y Sul dri chwrdd, sef dwy bregeth, ac Ysgol Sul yn prydnawn, ac yn gyffredin cedwid cwrdd gweddi a chyfeillach grefyddol yn yr wythnos; ond yr oedd llawer o'r bobl yn mhen eu helynt yma a thraw o'r pentref, fel yr aeth y cyfarfodydd wythnosol yn anaml, a bychan eu rhif. Cafwyd prawf neillduol y tymor hwn ar y dylanwad sydd gan amgylchiadau ar ddynion, hyd yn nod yn nglyn a'u crefydd Y mae canoedd o ddynion mewn hen wledydd Cristionogol yn grefyddol fel o arferiad, am eu bod wedi cael eu dwyn i fyny o'u mebyd i gydymffurfio âg arferion defosiynol y