Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

graddau o newyn yr adeg hon—dynion gweiniaid a diymadferth, nad oedd yn gallu myned i'r paith, nac ychwaith yn alluog i saethu ond ychydig, ond y mae yn ddymunol hysbyeu yma na newynodd neb, ond y mae yn ddiamheu i rai ddyoddef i'r fath raddau fel ag yr effeithiodd ar eu cyfansoddiadau byth wed'yn, fel ag i'w gwneud yn analluog i ddal caledwaith a phwl o afiechyd. Yn Tachwedd cawsom ymwared trwy i long fechan o Patagones ddyfod atom, gyda rhan o gymorth y llywodraeth, ac yr ydoedd ar ei bwrdd hefyd fasnachwr o Patagones gyda gwahanol nwyddau i'w gwerthu neu i'w cyfnewid am bluf a chrwyn. Tua'r wythnos olaf yn Rhagfyr daeth atom long arall o Buenos Aires gyda chyfran arall o rodd y lywodraeth, ac ar ei bwrdd deulu o Americaniaid, sef gwr a gwraig, a phlentyn. Y penteulu oedd Mr David Williams, Durbamville, Oneida, E.N.—Cymro o waedolaeth ac iaith, ond yn briod âg Americanes o Georgia. Yr oedd gan y gwr hwn eiddo a thir yn yr Unol Daleithiau, a bu yn gaffaeliad i'r Sefydliad yn y dyfodol drwy ddwyn i mewn i'r wlad offerynau amaethyddol Americanaidd. Y mae ef a'i briod wedi eu claddu yn naear y Camwy, a'i blant yno hyd heddyw yn barchus a llwyddianus. Daeth hefyd gyda'r llong hon un o'r enw Cadivor Wood, o Gaer—dyn ieuanc o Sais wedi dysgu Cymraeg, ac wedi cymeryd dyddordeb mawr yn y mudiad Gwladfaol, ac yn ysgrifenydd y Cwmni Ymfudol a Masnachol ydoedd newydd gael ei ffurfio yn Nghymru. Yn Ionawr, 1868, aeth ein llong fach i Patagones ar neges, i ymofyn gweddill yr ymborth oedd yno ar ein cyfer; Cadben Neagle, gyda chwech o ddynion cryfion ar ei bwrdd. Mr Cadivor Wood fel teithiwr yn dychwelyd yn ol wedi gorphen ei neges dros y Cwmni yn ein plith, Meistri James Jones, Thomas Evans (Dimol), David Davies, David Jones, a George Jones fel dwylaw y llong. Cyrhaeddodd Patagones yn ddyogel, a rhoddwyd yr ymborth, a dau ych gwaith ar ei bwrdd, a chychwynodd yn ol Chwefror yr 16eg, 1868, ond ni chlywyd gair am dani byth wed'yn, ac ni welwyd olion neb, na dim oedd ar ei bwrdd; y dyb ydyw, trwy ei bod yn wan, i'r anifeiliaid oedd o'i nmwn beri amhariad arni, neu achosi ei throi yn ormodol ar un ochr, fel achosi ei suddiad trwy ei llanw o ddwfr, ond nid yw hyn ond dyfaliad noeth; yn wir nid oes genym un ddirnadaeth beth a ddaeth o honi.