Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyn i unrhyw long arall ddyfod atom, bu peth prinder drachefn, ond nid i'r un graddau a'r prinder yn yr Hydref blaenorol. Yn Mai, 1868, daeth atom long eto o Buenos Aires gydag ymborth, hadyd, ac anifeiliaid, yn nghyda 36 o rychddrylliau (rifles).

Y mae y darllenydd erbyn hyn yn barod i ofyn, Beth am y symud i Santa Fe? Yr ydym yn awr yn myned i adrodd pa fodd y cafwyd o hyd i'r allwedd agorodd ddrws llwyddiant y Sefydliad.

Yr oedd yma yn ein mysg ddyfudwr o'r enw Aaron Jenkins, o Troedyrhiw, Merthyr Tydfil, D.C. Yr oedd efe o'r cychwyn wedi bod yn un o'r rhai mwyaf di-ffydd yn nglyn a'r wlad, ac wedi bod yn hynod o awyddus i ymadael o'r lle i rywle. Cafodd yntan fel ereill sm o hadyd i'w rhoddi yn y ddaear wedi troi yn ol, ond gan nad oedd ganddo foddion priodol tuag at aredig, a dim yn teimlo i fyned i geibio na phalu, penderfynodd daflu hadyd i'r tir du, di-groen, a llyfnodd ychydig arno, heb ddysgwyl gweled dim mwy o hono nac oddiwrtho. Yn Tachwedd y tymor hwn (1867), yr oedd yr afon yn uchel iawn, ac fel yr oedd Aaron Jenkins rhyw ddiwrnod yn sefyll ar lan yr afon gyferbyn a'r llanerch dir ydoedd wedi ei hau, a gweled fod yr afon bron at ben y geulan, ac yn tybio hefyd fod peth rhediad tuag at y llanerch tir oedd wedi ei hau, barnodd pe buasai yn agor ffos fechan yn ngheulan yr afon, y buasai y dwr yn rhedeg i'w dir. Penderfynodd fyned ati, a gwneud; ac erbyn iddo dori rhyw 20 neu 30 llath o ffos fechan, daeth y dwfr oedd yn ei dynu ar ei ol yn y ffos i wyneb y tir, a lifai yn haenen deneu dros ei dir gwenith. Wedi gweled fod y tir wedi ei fwydo yn dda, ataliodd y dwfr i redeg; a thrwy fod y tywydd yn gynes, yn mhen tua wythnos, yr oedd y gwenith yn egin glas dros y llanerch dir, ac yn mhen tua saith wythnos rhoddodd ddwfr iddo drachefn, a daeth yn mlaen yn wenith braf, ac yn gnwd toreithiog erbyn diwedd Chwefror. Torodd ef, a rhwymodd ef, a chasglwyd a dyrnwyd ef, a chafodd rai sacheidiau o'r gwenth harddaf a welsid yn unman. Cyn hyn yr oeddid yn tybied nad oedd y tir du di-groen yn werth dim, am nad oedd dim yn tyfu arno yn naturiol, heb wybod mai rhy sych ydoedd i fwrw allan egin yr hadau oedd ynddo wrth natur. Y mae yn y tir yn naturiol hadau amrywiol fathau o weiriau, a