Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y wlaw wedi peidio er's dyddiau, a'r awyr wedi clirio, a'r lle wedi dechreu trio ychydig, a phawb yn hyderus y bussid yn cael y cnwd heb fod yn rhyw lawer gwaeth wedi i'r dwfe gilio, am y gwyddid y buasai y ddaear a'r yd yn sychu yn gyflym wedi i'r dwfr gilio, am fod y tywydd mor boeth. Ar y Sul hwn, cododd yn wynt cryf o'r Gorllewin, fel y cynhyrfwyd y dwfr oedd megys llyn ar y dyffryn, nes codi tonau uchel arno, a'r gwynt yn gryf, fel y taflwyd yr holl stycanau i lawr, ac yna eu cario yn ysgubau rhyddion i ganlyn y llifeiriant i'r mor. Bu nifer fechan o'r tyddynwyr, trwy egni ac ymroad, yn llwyddianus i achub ychydig, ond collwyd corff mawr y cnwd, ac yr oedd yr ychydig a allwyd arbed yn gwaethygu yn fawr. Dyma eto y flwyddyn fwyaf lwyddianus a gobeithiol oeddym wedi ei gael o'r cychwyn wedi troi allan yn fethiant ac yn siomedigaeth fawr. Hefyd, heblaw colli y cnwd, collwyd tua 60 o aneri oeddid newydd eu cael, trwy iddynt, wrth ddianc o ffordd y llif oedd ar y dyffryn, grwydro ar hyd y paith, nes myned yn rhy bell i gael gafael arnynt, ac ni chafwyd byth mo honynt, am iddynt fyned i gyfeiriad yr Andes, ac felly i gyraedd yr Indiaid. Profiad tanllyd oedd hwn i'r sefydlwyr. Wedi i ni dybio ein bod wedi cael allwedd llwyddiant y wlad, a chael y fath gynhauaf addawol, dyma nodwedd newydd ar y wlad yn dod ger ein bronau. Y cwestiwn yn awr ydoedd, Pa mor aml y gallesid dysgwyl gorlifiad fel hwn? Yr oeddym wedi bod yma er's yn agos i bedair blynedd, a dyma y tro cyntaf i ni weled peth fel hwn, ond beth os oedd i ddod bobrhyw bedair neu bum' mlynedd, a hyny yn barhaus. Yr oedd un peth yn peri i ni beidio gwangaloni, sef nad oedd arwyddion fod y fath orlifiad wedi bod er's llawer o flynyddoedd meithion. Ar yr adeg hon, yr oedd rhai yn byw ar eu tyddynod, ac wedi gorfod cilio o'u tai, a myned i fyw mewn math o babellau ar fryn bychan oedd gerllaw, ond trwy fod y tywydd mor desol, ni oddefodd neb unrhyw niwed oddiwrth hyny. Ond wrth fod y rhan luosocaf o'r boblogaeth yn byw yn y pentref, a hwnw wedi ei adeiladu ar fryn graiarog, ni achosodd y gorlifiad lawer o golled na thrafferth yn yr ystyr hyn.