Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XV.

Yn nechreu y flwyddyn 1869, cafodd Mr. Lewis Jones long eto gan y Llywodraeth at wasanaeth y sefydliad, yr hon a enwyd "Mary Ann," a chafodd hefyd arian i brynu gwartheg eto yn Patagones, ac â rhan o'r arian prynwyd melin flawd i'w gweithio gyda marchrym. Ond y fordaith gyntaf hon o eiddo y "Mary Ann," ysigwyd hi yn ddrwg iawn wrth ddyfod i mewn dros y bar i'r Camwy, fel na chafodd ond cael a chael gyraedd yn ol i Buenos Ayres, a chan nad oedd genym fel Gwladfa fodd i dalu am ei hadgyweirio, gorfu i Mr Lewis Jones ei gwerthu yn Buenos Ayres am bris bychan iawn. Yn Ebrill yr un flwyddyn, aeth Mr. Jones yn ol i Gymru i ymofyn ei deulu, yr hwn oedd wedi dychwelyd yn Dechreu 1866. Dyma y Wladfa unwaith eto wedi ei gadael heb un cyfrwng cymundeb ag unman tu allan iddi ei hun. Er ein bod fel hyn yn aflwyddo y naill flwyddyn ar ol y llall trwy ryw anffawd neu gilydd, eto oedd y sefydlwyr wedi credu fod y dyffryn o ran ei dir yn amaethadwy a chynyrchiol, ond i ni allu gor-fyw yr anffodion hyn, fel nad oedd bron neb yn son yn awr am fyned ymaith. Hauwyd y tymor hwn eto, trwy i ni gael cyflenwad o hadyd gan y Llywodraeth yn y " Mary Ann," ond os daeth yr afon dros ei cheulanau y tymor o'r blaen, ni chododd y tymor hwn mor uchel ag yr arferai, ac felly yn Chwefror 1870, ni chafwyd ond cnwd rhanol, am i'r afon fyned yn rhy isel i ddyfod i mewn i'r ffosydd pan yr oedd angen ail a thrydydd dwfr ar y gwenith. Yr oedd hyn eto yn wedd newydd ar bethau i ni, am nad oeddym, er pan yn y lle wedi sylwi fod yr afon yn codi mor lleied, ac yn myned i lawr mor gynar yn y tymor.

"Y Cwmni Ymfudol a Masnachol Cyfyngedig."—

Gwnaethom gyfeiriad damweiniol yn barod at y Cwmni hwn yn nglyn a cholliad y llong fach yn yr hon yr oedd Mr. Cadivor Wood. Nid yw yn perthyn i amcan yr hanes hwn i ymdrin a helynt y Cwmni hwn, ond eto y mae yn anmhosibl egluro rhai pethau yn nglyn a'r Wladfa yn y Camwy heb grybwyll ychydig am y Cwmni hwn. Y mae yn ymddangos i rai o gyfeillion a phleidwyr y