Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mudiad Gwladfaol yn Nghymru, yn gystal ag yn yr Unol Dalaethau, ffurfio bob un Gwmni gyda'r amcan i brynu tir, llogi neu brynu llongau i gludo ymfudwyr a nwyddau i Patagonia, a gwneud masnach a manau ereill, a chludo nwyddau i ac o wahanol wledydd, ond yn benaf gwledydd De America. Galwyd y Cwmni Cymreig "Cwmni Ymfudol a Masnachol Cyfyngedig;" y Parchedigion M. D. Jones, Bala; D. Lloyd Jones, Ffestiniog; ac R. Mawddwy Jones, Dolyddelen, oedd a'r llaw flaenaf yn ffurfiad y Cwmni hwn yn Nghymru. Prynwyd llong newydd, a galwyd hi "Myfanwy," yr hon a gostiodd tua thair mil o bunau. Hwyliodd y "Myfanwy" o Casnewydd am Patagonia yn ngwanwyn 1870, gyda Mr. Lewis Jones a'i deulu ar ei bwrdd, a dau deulu ereill fel ymfudwyr. Yr oedd un o'r penau teuluoedd hyn yn ôf medrus, ac anfonwyd allan yn ei ofal swm o haiarn, a llawer o arfau amaethyddol defnyddiol, a bu efe a'r arfau yn gaffaeliad mawr i'r sefydliad, am i'r gof oedd genym wedi dod allan yn y fintai gyntaf ymadael i Patagones. Glaniasant yn Mhorth Madryn yn mis Mai, ac wedi dadlwytho ac aros ychydig, ymadawodd y "Myfanwy," a dyna yr unig fordaith a wnaeth i'r Wladfa. Boneddwr ieuanc o'r enw Griffiths oedd Captain y llong hon, ac o herwydd rhyw annibendod a diofalwch, os nad twyll mawr o du rhyw un neu ryw rai, bu y llong hon yn golled o'r dechreu i'r diwedd i'r Cwmni, ond gan mai y Parch. M. D. Jones, Bala, trwy eiddo Mrs. Jones, oedd y mwyaf tan ei ddwylaw, bu helynt y llong hon yn golled ac yn sarhad mawr iddo ac arno, er ei fod yn hollol ddiniwed yn nglyn a'r holl helynt. Gwerthwyd y llong trwy arwerthiant gan y gofynwyr, a phrynwyd hi gan yr un rhai am un rhan o dair o'i gwerth, a hyny yn mhen y flwyddyn wedi ei hadeiladu, a gwerthwyd y Parch. M. D. Jones i fyny am y gweddill o'r arian. Nid oes hanes am bleidiau wedi ymddwyn yn fwy creulon ac anonest na'r gofynwyr hyn ar ddu a gwyn. Peth hawdd iawn yw pigo i fyny ddiffygion, y mae yn wir, ond y mae yn ddiameu pe buasai cyfeillion y mudiad Gwladfaol yn ymgynghori a'r sefydlwyr ar y Camwy cyn cymeryd cam mor bwysig, gallesid ysgoi golled fawr hon.

Nid oedd y sefydliad y pryd hwnw wedi cyrhaedd safle o lwyddiant digon helaeth a sicr i fentro cymaint arno, ac nid oedd y boblogaeth yn