Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddigon lluosog fel ag i allu derbyn llwyth o nwyddau, heb son am allu i dalu am danynt. Ond y mae hyn i'w ddweyd fel esgusawd, yr oedd y Sefydliad mor bell o Gymru, a'r cymundeb â Chymru mor anaml, a'r Gwladfawyr yn Nghymru mor awyddus i yru allan Ymfudwyr, a gwneud y Wladfa yn Patagonia yn llwyddiant buan ac amlwg, fel nad oedd yn eu golwg hwy ddim amser i'w golli. Ond y mae yn bur debyg i'r hyn a fwriadwyd i fod er mantais, droi allan i fod yn anfantais trwy i helynt y cwmni hwn ddwyn anair i'r Sefydliad, am fod ei enw wedi ei gysylltu ag ef, pan na wyddai y Sefydlwyr ddim yn ei gylch, nac yn meddu unrhyw fuddianau ynddo, ac ni dderbyniodd y Sefydliad unrhyw elw oddiwrtho, ond mor bell ag y gwnaeth dyfodiad y gof hwnw hwylusdod iddo. Y mae hanes y Cwmni hwn yn rhybydd i bawb nad ymyront a phethau nad oes ganddynt gymhwysder atynt, na phrofiad o honynt.

Ymadawodd y llong "Myfanwy" fel y crybwyllasom mor fuan ag y dadlwythodd, ond diangodd pedwar o'r dwylaw i'r tir, a buont yn guddiedig hyd nes iddi fyned allan o'r porthladd. Hauwyd y flwyddyn hon eto ar y tir du digroen, yn y gobaith y buasai yr afon yn codi yn brydlon, ac yn dal i fyny, fel y byddai yn arferol o gwneud hyd y flwyddyn ddiweddaf. Ymwelwyd a ni gan nifer luosog iawn o Indiaid y gauaf hwn, sef o Mehefin hyd Medi; ac er fod ymweliadau yr Indiaid yn fuddiol iawn i ni, eto byddent yn gryn rwystr i'r penau tealuoedd i yru yn mlaen gyda llafurio y tir, am nad oeddid yn teimlo i adael y teuluoedd wrthynt eu hunain pan y byddai llawer o'r Indiaid oddeutu. Aeth yr hau braidd yn ddiweddar y flwyddyn hon, ond cododd yr afon yn brydlon, a dyfrhawyd y tir yn drefnus, ac yn mis Hydref yr oedd golwg obeithiol ar y cnydau; ond aeth yr afon yn isel eleni eto pan oedd angen ail ddyfrhad ar y gwenith; ac er na fethodd yn hollol, eto cnwd teneu a gwan ydoedd; ac erbyn Chwefror 1871, pan ddaeth y cynhauaf, nid oedd genym ond cnwd rhanol iawn. Yn wir dwy flynedd sych a chrynllid iawn oedd y rhai hyn, a deallasom wedi hyny eu bod wedi bod felly trwy ranau helaeth o Ddeheudir America, fel nad oedd y Camwy yn eithriad i fanau ereill.