Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ayres yn meddwl am danom. Boneddwr o'r enw H. G. Macdonell oedd is-genhadwr Prydain yn Buenos Ayres yr adeg hon, ac y mae darllen ei ohebiaethau a Captain Bendingfeld, y llynges Brydeinig yn Monte Video, yn dangos ei fod yn ddyn oedd yn meddu dynoliaeth dyner a charedig. (Gwel adroddiad y "Cracker" am 1871). Y mae yn ymddangos fod math o ryfel cartrefol yn nhalaeth Entre Rias ar y pryd hwn, a bod y Llywodraeth Archentaidd mewn llawn gwaith o'r herwydd, fel nad oeddynt yn gallu talu sylw i fawr o ddim arall. Ar yr un adeg hefyd yr oedd Indiaid y rhan ddeheuol o dalaeth Buenos Ayres yn gwneud ymosodiad ar Bahia Blanca, ac yn peri cryn anesmwythder yn Buenos Ayres yn mhlith y boblogaeth Seisnig, am fod amryw ddinasyddion Prydeinig yn sefydlu yn Bahia Blanca ar y pryd. Felly teimlai Mr. Macdonell bryder yn nghylch y Wladfa rhag ein bod ninau yn dyoddef oddiwrth ymosodiad cyffelyb, gan nad oedd ond rhyw dri chan' milldir cydrhyngom. Cafodd Mr. Macdonell ymgom gydag un o'r enw M. Carrega, y masnachwr oedd wedi ymgymeryd ag anfon yr ymborth a roddai y Llywodraeth i gynorthwyo y Wladfa. Dywedai hwn fod cymorth y Llywodraeth wedi peidio er Mehefin 1869, a'i fod ef wedi derbyn cais oddiwrth Mr. Lewis Jones i'w roddi i'r prif weinidog yn gystal ag i lywydd y Weriniaeth yn Mai 1870 am ychwaneg o gymorth i'r sefydlwyr, ac hefyd i'r Indiaid, ond nad oedd dim wedi ei wneud. Mewn canlyniad, bu gobebiaeth faith rhwng Mr. H. G. Macdonell a'r Captain Bendingfeld yn nghylch anfon un o'r llongau Prydeinig yn Monte Video i lawr i edrych hynt y sefydliad ar y Camwy. Wedi hir ohebu, yn Ebrill 1871 y mae y Captain Bendingfeld yn cydsynio, ac yn anfon i lawr y llong "Cracker" a'r Cadlyw R. P. Dennistoun i dalu ymweliad a ni, a gallaf sicrhau y darllenydd fod ymweliad y llong hon a ni fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Bu dyfodiad y "Cracker" yn fantais fawr i ni yr adeg hon. Fel y gellir dysgwyl, mewn byd mor llawn o amrywiaeth a hwn, y mae cryn wahaniaeth rhwng gweision ei Mawrhydi y Victoria a'u gilydd ar y llongau hyn, ac y mae cymeriadau y dynion hyn i'w gweled yn amlwg yn yr adroddiadau a wnaed ganddynt o'r sefydliad a'r sefydlwyr o dro i dro. Y tro hwn fel y tro o'r blaen, buom yn ffodus i gwrdd a