Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. XVII.—TYMHOR HAU 1871, A LLADRATA Y CEFFYLAU

Yr oedd codiadau bychain yr afon am y ddwy flynedd diweddaf wedi siglo ychydig ar ein ffydd yn nghysondeb codiadau yr afon, ac felly yr oeddid yn treio dyfeisio pa fodd i gael dwfr pe na buasai yn codi fel yr arferai wneud. Y mae yn rhedeg trwy ddyffryn y Camwy, y ddwy ochr i'r afon, ddwy gamlas naturiol un o bob tu i'r afon, neu fel y byddem ni yn eu galw, dau hen wely afon. Y mae yn ymddangos fod yr afon rhyw adeg yn mhell yn ol, wedi bod yn canghenu fel yn dair afon, neu fe allai yn fwy cywir, yn un afon a dwy gangen afonydd. Yr oedd genau y rhai hyn wedi llanw i fyny, fel nad oedd yr afon yn rhedeg i mewn iddynt ond ar godiadau uchel. Barnodd rhai y buasai yn fantais agor genau yr un ar yr ochr ogleddol er mwyn cael dwfr i ddyfrhau y rhan isaf o'r dyffryn pan y byddai yr afon yn rhy isel i gael dwfr i ffos gyferbyn a'r darnau a hauwyd. Trwy fod rhediad yn y dyffryn i gyfeiriad y mor, ac wrth gael dwfr o'r afon i'r hen wely ugain milldir yn uwch na'r man ei defnyddid, yr oedd cyfuwch a'r tir yn y man hwnw pan nad oedd y dwfr yn yr afon gyferbyn yn ddigon uchel, am y rheswm fod rhediad yr afon ar yr un raddeg a rhediad y dyffryn. Felly agorwyd genau yr hen wely afon ar yr ochr ogleddol, ac wedi i'r afon godi ychydig, daeth y dwfr i mewn, a threfnwyd i bron pawb hau ar ddarn o dir (addas y pryd hwnw) heb fod yn mhell o waelod y dyffryn. Yr oedd y tir hwn yn ddigroen, ac felly yn hawdd gydmarol i'w drin, ond yr oedd pob un yn treio aredig ychydig arno, am fod ychydig dyfiant arno yma a thraw.

Yr Indiaid yn lladrata ein ceffylau.—

Pan oeddym newydd ddechreu trin y tir hwn, rhyw noswaith pan yr oedd pawb yn ddiofal a difeddwl am ddrwg gerllaw, daeth mintal o Indiaid ysbeilgar i lawr tua naw neu ddeg o'r gloch, a chasglasant yr holl geffylau oeddynt gyfleus ar y dyffryn, ac aethant ymaith, heb ond i ryw ychydig nifer o'r sefydlwyr wybod dim am y peth. Ond yr oedd rhyw un neu ddau wedi gweled nifer o Indiaid, ac wedi clywed twrf gyru anifeiliaid, ac aethant i roi tro am eu ceffylau, ond nid oedd un i'w gael. Yna galwyd