Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r cymydog nesaf, ac aeth yntau i edrych, ac felly o dy i dy, ond nid oedd un ceffyl i'w weled yn unman, a chyn haner nos yr oeddid wedi cael sicrwydd fod dros 60 o geffylau wedi eu cymeryd ymaith. Codwyd cri mawr trwy y sefydliad, ac yn foreu iawn tranoeth, aeth nifer luosog o'r Gwladfawyr ar eu holau, ond rywfodd, o ddiffyg trefn a phwyll, methasant gael yr anifeiliaid yn ol. Y mae yn wir fod gan yr holl sefydlwyr oedd mewn oed rychddrylliau (rifles), ond nid oedd llawer o honynt mewn trim, ac amryw o'r rhai a'u meddianent yn bur anwybodus y pryd hwnw pa fodd i'w defnyddio, a thrwy y naill beth a'r llall, nid oeddym yn rhyw gymwys iawn i erlid mintai o Indiaid na wyddent pa faint oedd eu nifer. Anhawsder arall oedd diffyg ceffylau, am fod y ceffylau oedd yn gyfleus gan mwyaf wedi eu lladrata, ac yna yr oedd yn gofyn amser i chwilio am y lleill mewn gwlad ddigraian fel yr oedd y Wladfa y pryd hwnw. Yr oedd rhai wedi cychwyn mor fyrbwyll, fel yr anghofiasant eu cad-ddarpariaeth (ammunition), ac er i rai o'r erlidwyr dd'od i olwg yr ysbeilwyr rhyw haner can' milldir i fyny y wlad, eto yr oeddynt mor lleied o nifer, ac mor amharod yn eu darpariadau, fel y teimlent yn rhy ddigalon i'w gwynebu mewn brwydr, os byddai hyny yn ofynol. Fel hyn, trwy ein diffyg profiad a'r fath beth, yr hyn a wyddai yr Indiaid yn dda, gadawyd 65 o geffylau yn ysbail iddynt. Bu yr ysbeiliad hwn yn golled dirfawr i'r sefydliad, yn enwedig y tymor hwn ar y flwyddyn pan oeddym ar ganol trin ein tir, nid am nad oedd gan y sefydlwyr, braidd bawb o honom, geffylau ereill, ond y ceffylau oedd arferol a gweithio a gymerwyd ymaith am mai hwy oedd yn fwyaf cyfleus. Önd er y golled hon, a'r rhwystr a achosodd i'r tyddynwyr, eto hauwyd cryn lawer y flwyddyn hon ag ystyried yr amgylchiadau. Yn fuan wedi hau y flwyddyn hon, gwnaeth wlaw trwm, ac eginodd y gwenith, nes oedd y llanerchau yn wyrddion, ond bu yr afon yn hir iawn cyn codi, ac hefyd codiad bychan a gafwyd, a chyn i rai gael dwfr, yr oedd y gwenith a eginodd gyda'r gwlaw wedi dechreu gwywo a chrino, fel nad oedd yn werth rhoi dwfr iddo. Cafodd rhai ychydig gnwd, ond ar y cyfan, gellir dweyd mai methiant fu y flwyddyn hon eto, sef cynhauaf Ionawr a Chwefror 1872. Yn ystod y flwyddyn hon 1871, daeth ar ymweliad a'n porthladd yn ngenau yr afon long