Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr o'r Alban, yn ngofal un Robert Stephens, ac aeth yn ddrylliau yn ngenau yr afon trwy anffawd neu esgeulusdra, ac wedi iddi gael ei thafu i'r lan, cymerodd dân, a llosgwyd y rhan oedd allan o afael y llanw. Cafwyd yn y llong hon amryw bethau defnyddiol at ein gwasanaeth, ond yn benaf cafwyd modd i ail gychwyn magu moch, a'r rhai hyny o fryd Seisnig. Cafwyd hefyd lawer o goed o'r llong ddrylliedig hon tuag at adeiladu a phethau ereill.

PEN. XVIII—DECHREU MASNACH GYSON YN Y WLADFA YN 1872

Er nad oedd y sefydliad hyd yn hyn wedi llwyddo i godi digon o yd i'w allforio i Buenos Ayres nac unman arall, eto yr oeddym yn codi digon i wneud masnach go fawr a'r Indiaid, trwy gyfnewid blawd a bara am grwyn a phluf estrysod. Gan nad oedd yn y lle fasnachdy na masnachwr yn byw ar fasnachu, yr oedd pob teulu, fel rheol, yn gwneud tipyn o fasnach a'r brodorion. Yn y flwyddyn hon, daeth un o'r enw Carl Brown gyda schooner fechan a nwyddau ynddi i mewn i'r afon, er mwyn gwneud masnach a ni. Yr oedd gan hwn ystor o nwyddau defnyddiol at ein gwasanaeth, ond ar raddfa fechan, a rhoddai hwy yn gyfnewid am ymenyn, caws, pluf, a chrwyn. Yr oedd ein gwartheg godro ni yn ddigon lluosog fel ag i alluogi bron bob teulu i wneud mwy nag a ddefnyddiai o gaws ac ymenyn. Yr oeddid wedi allforio peth caws ac ymenyn o'r blaen i Buenos Ayres gyda y llong ddiweddaf a ddaethai yma gan Mr. Lewis Jones. Cyn diwedd y flwyddyn hon hefyd, daeth yma un Captain Cox o Monte Video gyda llong fechan a nwyddau ynddi er gwneud masnach a ni. Yr oedd llong hwn yn fwy na llong Carl Brown, a dygai ynddi fwy o amrywiaeth nwyddau, a gwell nwyddau at eu gilydd, a rhoddai yntau ei nwyddau yn gyfnewid am yr hyn a feddem i'w roddi yn eu lle. Awgrymasom yn nes yn ol yn yr hanes hwn fod pleidwyr y symudiad Gwladfaol yn yr Unol Dalaethau yn gystal ag yn Nghymru wedi ffurfio cwmni er hyrwyddo ymfudiaeth i'r Wladfa Gymreig yn Patagonia. Yr oedd yn New York, ac mewn rhai manau ereill yn y Talaethau Unedig, nifer o ddynion brwdfrydig iawn dros y mudiad