Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwladfaol, ond nid yw enwau yr oll yn adnabyddus i mi ar hyn o bryd, ond y rhai mwyaf blaenllaw ac amlwg oeddynt y Parch. Jonathan Jones, Meistri William Jeremiah, William ap Rhys, y tri o New York, a'r Parch. D. S. Davies (yn awr o Gaerfyrddin) ond y pryd hwnw yn weinidog yn yr Unol Dalaethau. Trwy ymdrechion y cyfeillion hyn, a rhoddion arianol Jonathan Jones, a William Jeremiah yn benaf, prynwyd ac anfonwyd allan y Brigantine "Rush" i'r Wladfa. Ni ddygodd hon ynddi na nwyddau nac ymfudwyr i'r Wladfa, oddieithr un dyn o'r enw Edward Jones, o Dinas Mawddwy, yr hwn oedd yn Buenos Ayres, yn aros am gyfle i ddyfod i lawr i'r sefydliad. Trwy ryw anffawd neu gilydd, ni fu yr anturiaeth hon eto yn llwyddianus. Y mae yn wir iddi wneud rhai mordeithiau bychain yn South America, a bu yn y Wladfa ddwywaith neu dair, ond y diwedd fu, o herwydd rhyw drosedd o gyfreithiau y wlad yn nglyn a llongau a gyflenwasid gan y Captain, cymerwyd hi yna contraband gan y Llywodraeth Archentaidd yn y flwyddyn 1873, a gwnawd hi yn light-ship ar yr afon Plate, lle y mae yn aros hyd heddyw. Ond er na fu y llong hon ond colled i'r cwmni yn New York, eto bu yn beth mantais i'r Wladfa fel cyfrwng cymundeb a'r byd tuallan i ni. Yn yr ail fordaith iddi i Porth Madryn, dygodd gyda hi un o'r enw Thomas Bembo Phillips atom o Brazil. Dyma y Phillips a aethai allan gyda'r fintai hono o Brynmawr, gyda'r bwriad o ffurfio Gwladfa Gymreig yn Pelates Rio Grande do Sul. Ei neges ef oedd er cael gweled beth oedd rhagolygon y Wladfa ar y Camwy, gan fod y Wladfa yn Brazil wedi hen dori i fyny, a'r Cymry oll ond tri theulu wedi gwasgaru. Pan oedd y "Rush" yn dychwelyd y tro hwn, sef dechreu 1873, bu yn gyfleusdra i'r Meistri Lewis Jones, David Williams (America), Captain Cox, ac ysgrifenydd yr hanes hwn, i fyned gyda hii Patagones. Yr oedd y Captain Cox y soniasom am dano fwy nag unwaith eisioes wedi colli ei long yn ngenau yr afon wrth dreio myned allan, ac felly yn gorfod gadael dwylaw y llong yn y sefydliad, a myned ei hunan i ymofyn llong arall, er cael y nwyddau oedd ganddo yn y Camwy a'r dwylaw i Monte Video.

Hauwyd ar dir cydmarol isel y flwyddyn 1872, a chod-