Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haner dwsin ar foreu Sul, ac yn treio cael dau neu dri dosbarth yn y prydnawn. Yr oedd y cymundeb ar un adeg wedi bod mor ddiffygiol, fel yr oedd yn anhawdd iawn cael dilladau, a llawer o honom hefyd yn rhy dlawd i'w prynu pe buasent o fewn ein cyrhaedd, ac felly yr oedd llawer wedi myned yn brin iawn o ddillad gweddus i ymddangos mewn cyfarfodydd Sabbothol. Bu hyn yn anfantais i'n cynulliadau crefyddol, a bu i lawer oeri a difateri wrth hir arfer bod o'r moddion, ac wrth gadw draw oddiwrth ddylanwadau yr efengyl yn llacio yn eu moesau; ond wedi y cwbl glynodd rhai yn ffyddlon wrth eu crefydd trwy bob diflasdod ac anghyfleusdra, o'r rhai y mae ychydig nifer yn aros hyd heddyw yn golofnau yn ol y gras a roddwyd iddynt.

Ein Sefyllfa Wleidyddol.—Nid oedd y Weriniaeth Archentaidd wedi ymyraeth dim a ni eto mewn ffordd o lywodraethiad lleol. Yr oeddym fel sefydlwyr wedi ffurfio cnewyllyn llywodraeth cyn cychwyn o Lerpwl, fel yr ydym wedi cyfeirio o'r blaen. Yr oedd y Cyngor yn eistedd yn fisol, neu yn amlach os byddai angen. Gwaith y Cyngor oedd gwneud deddfau neu gyfreithiau yn unol a math o gyfansoddiad gwladol oedd genym wedi cytuno arno; hwy hefyd oedd i drefnu gwneud unrhyw waith cyhoeddus, a chyflogi unrhyw swyddwyr, megys heddweision. Gwaith y llywydd oedd arwyddo y deddfau a wnelai y Cyngor, a gofalu eu bod yn cael eu cario allan. Gwaith yr ynad oedd derbyn cwynion am droseddau neu gamweddau, a rhoddi gwysion allan, a galw llys Athrywyn neu lys Rhaith, yn ol fel y byddai y galwad, bod yn gadeirydd y llysoedd, holi y tystion, symio i fyny, a rhoddi y ddedfryd mewn grym. Math o lys cyflafareddol mewn achosion o gamweddau oedd ein llys Athrywyn, a byddai ein llys Rhaith yn gynwysedig o 12 o reithwyr, y rhai a fyddent nid yn unig yn barnu y gwysiedig yn euog neu yn ddieuog, ond hefyd yn penderfynu beth oedd y ddirwy neu y gosp i fod, fel na byddai yr ynad yn gwneud dim ond yn unig cyhoeddi yr hyn a wnelai y rheithwyr, a gofalu bod y ddirwy yn cael ei thalu, neu y gosp yn cael ei gweinyddu. Os methai yr ynad a chario allan y ddirwy neu y gosp o herwydd ystyfnigrwydd y camweddwr neu y troseddwr, yna apeliai at y llywydd,