Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac os methai yntau trwy foddion tyner, yna yr oedd yn y sefydliad nifer o heddlu neu wirfoddolwyr at wasanaeth y llywydd, y rhai a elwid ganddo i roi y gyfraith mewn grym. Y mae yn dda genyf allu cofnodi na fu galwad am wasanaeth yr heddlu hyn ond un waith yn ystod y blynyddoedd y bu y ffurf hon o lywodraeth genym. Gwaith yr ysgrifenydd oedd cofnodi y cyfreithiau a wneud gan y Cyngor, a gwneud pob gohebiaeth fewnol a thramor. Gwaith y cofrestrydd ydoedd cofrestru genedigaethau a marwolaethau, a chynorthwyo mewn priodasau, a rhoddi y drwydded angenrheidiol. Y mae yn ddyledswydd arnaf yn y fan hon goffhau mai Mr. R. J. Berwyn, o New York, ond brodor o Glyn Ceiriog, fu ysgrifenydd a rhestrydd y Wladfa yn ystod y blynyddoedd y bu y ffurf hon ar lywodraeth y lle, a chyflawnodd hi yn ffyddlon a manwl, a chanmoladwy dros ben, yn neillduol fel rhestrydd.

Ein Masnach.—Yr ydym wedi dangos eisioes yn yr hanes hwn beth oedd ein sefyllfa yn fasnachol, ond gadawsom allan ffaith neu ddwy sydd yn teilyngu sylw. Daeth allan yn mysg y fintai gyntaf foneddwr o'r enw John Ellis, dilledydd o Lerpwl, a daeth i'w ganlyn gyflenwad bychan o nwyddau amrywiol, y rhai a werthodd i'r sefydlwyr yn awr ac yn y man, fel y byddai y galw, yn gyfnewid am bluf a chrwyn. Hefyd yn 1870, anfonwyd allan gyda'r "Myfanwy," swm cymedrol fawr o amrywiol nwyddau i'r John Griffiths, Ysw., y soniasom o'r blaen am dano—mab G. Griffiths, Ysw., Hendrefinws, ger Pwllheli, yr hwn sydd bellach er's blynyddoedd wedi dyfod yn ol i gymeryd lle ei dad ar y fferm. Bu y nwyddau hyn drachefn yn fuddiol ac amserol iawn i'r sefydlwyr. Gwelir felly ein bod hyd y flwyddyn ddiweddaf 1872 heb fasnach gyson, yn unig pan ddamweiniai llong fod yn ein porthladd, gwnaem ninau ein goreu o'r hyn oedd genym, a'u cyfnewid am bethau hanfodol.

PEN XX.—YR YSGRIFENYDD YN MYNED I GYMRU.

Er fod y Gwladfawyr erbyn hyn yn teimlo fod y Camwy yn lle i wneud bywioliaeth gysuras, eto yr oedd yr unigedd yr oeddym ynddo yn peri i ni amheu a ydoedd