Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael lle i enill bywioliaeth yn rhwydd a didrafferth yn ddigon o iawn am y bywyd a dreuliem mor ddigymdeithas. Y mae i nifer fechan o ddynion fyw ar eu penau eu hunain yn gyfangwbl—byw i weled yr un gwynebau a chymdeithasu a'r un meddyliau, ac ar un ffurfo fywyd yn barhaus, yn rhoi dylanwad dirywiol ar ddynoliaeth. Ond beth oedd i'w wneud? Yr oedd ein hanffodion o flwyddyn i flwyddyn wedi cael eu cyhoeddi yo Nghymru, ac nid yn unig eu cyhoeddi fel yr oeddynt, ond wedi eu camliwio i ateb rhagfarn dosbarth o bobl oedd yn anffafriol i'r symudiad Gwladfaol, fel yr oedd pawb yn arswydo rhag y syniad o ymfudo i'r fath le. Y mae yn wir fod cyfeillion y mudiad yn darllen pob peth, ac yn mesur a phwyso y da a'r drwg, ac yn gweled yn glir mai llwyddo yn raddol yr oedd y Wladfa, ond nid oedd wiw iddynt ddweyd hyn wrth neb ar feddwl cael eu credu. Yr oeddym ninau yn y Wladfa yn deall mai fel hyn yr oedd pethau yn Nghymru, ac nad oedd modd cael ychwaneg o ddyfudwyr allan heb i rywun neu rywrai fyned yno i symud y rhagfarn, a rhoi goleu clir ar bethau fel yr oeddynt. Teimlem hefyd nad oedd yn werth i nifer mor fychan alltudio eu hunain i fyw yma, os nad oedd gobaith am ereill i ddod atom o Gymru neu yr Unol Dalaethau er creu eymdeithas dda, a masnach yn y lle. Fel y crybwyllais o'r blaen, nid oedd yn ein mysg alian cylchredol yn ystod y blynyddoedd hyn am i'r arian papyr y soniwyd am danynt syrthio yn ddiwerth, am na chafodd y Cyngor eiddo cyhoeddus yn gyfwerth a hwynt, felly yr oedd diffyg arian yn anfantais i neb o honom ymadael i unrhyw wlad tu allan i'n cylch ein hunain, am mai a chrwyn, pluf, ymenyn a chaws yr oeddym yn masnachu, ac nad oeddym braidd byth yn derbyn arian am danynt. Crybwyllais o'r blaen am long Captain Cox oedd yma yn nechreu Ionawr 1873, a phenderfynodd yr Ysgrifenydd fyned gyda hi i Monte Video, ac oddiyno i Lerpwl, er gweled beth ellid wneud yn nglyn a chael pobl i'r Wladfa. Yr oeddwn wedi dod i'r penderfyniad hwn yn gwbl o honof fy hun, ac yn myned ar fy nhraul a fy nghyfrifoldeb fy hun, heb neb yn fy anfon na neb yn danfon am danaf. Wedi talu fy nghludiad mewn ymenyn, dyma ni yn barod i gychwyn allan dros y bar, oud rhywfodd neu gilydd, o ddiffyg gwynt digon teg, methodd ein