Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wladfa er pob siom a cholled oedd ef ac ereill wedi ei gael yn nglyn a'r "Rush" a chynlluniau ereill, ac yr oedd efe yn frwdfrydig iawn am i mi fyned drosodd. Wedi bod yno rhyw dri mis, a theithio rhanau o chwech talaeth, ac areithio neu bregethu bob nos, ac weithiau yn y dydd, dychwelais yn ol i Gymru yn niwedd Tachwedd. Cafodd yr Ysgrifenydd dderbyniad gwresog a charedig iawn gan yr Americaniaid, yn enwedig i bregethu, canys rhaid addef nad oedd yr Americaniaid yn rhyw foddlon iawn y pryd hwnw i neb ganmol un lle ond eu gwlad hwy. Y mae yn wir mai gwlad eang, gyfoethog iawn yw Gogledd America, ond eto nid ydyw i'w chydmaru a Deheudir America o ran ei hinsawdd, a ffrwythlondeb y tir. Y mae pethau wedi newid yn fawr yn yr Unol Dalthau yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf—y wlad wedi llanw yn fawr, a diameu y ca unrhyw un well gwrandawiad yno heddyw i siarad am leoedd newyddion i ymfudo iddynt nag oedd i'w gael y pryd hwnw. Daethum yn ol i Gymru tua diwedd Tachwedd 1873, a pharheais i ddarlithio a phregethu yno hyd ddiwedd Mawrth 1874. Yn ystod y misoedd hyn, yr oedd dwy fintai yn cael eu casglu —un yn Nghymru, dan nawdd a gofal y Parch. D. Ll. Jones, Rhuthin, a'r llall yn yr Unol Dalaethau, yn ngofal y Parch. D. S. Davies—y naill a'r llall i fod yn barod i gychwyn ddechreu Ebrill. Cafwyd 49 yn Nghymru yn barod i gychwyn, a thua 35 yn yr Unol Dalaethau. Nid oedd modd y pryd hwnw, fel sydd yn awr, gael gan un cwmni i gymeryd mintai, a'i rhoddi i lawr yn Porth Madryn, ac felly nid oedd dim i wneud ond myned yn un o'r lluaws agerlongau oedd yn teithio rhwng Lerpwl a Buenos Ayres, a byw trwy ffydd y cawsem ryw long i fyned a ni i lawr oddiyno i'r Camwy. Cychwynasom o Lerpwl ar fwrdd y S.S. "Hipparchus" Ebrill yr 20fed, 1874, a glaniasom, wedi mordaith gysurus, yn Buenos Ayres yn mhen y mis. Yr oedd Cymry America wedi bod yn fwy anturiaethus, ac wedi prynu llong iddynt eu hunain, ac wedi ei ffitio hi i fyny eu hunain ag ymborth a dwylaw, ac a Chaptain o fysg y fintai. Yn anffodus iddynt, er fod eu Captain yn forwr medrus, y mae yn ymddangos nad oedd ei wybodaeth forwrol yn ddigon i fordaith mor bell, ond beth bynag, aeth eu llong i'r lan ar dueddau Brazil, a chollasant y cwbl bron a feddent ond eu bywydau. Cawsant garedigrwydd mawr gan