Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Saeson a chenedloedd ereill yn y parthau hyny, fel trwy y naill long ar ol y llall, cyraeddasant Buenos Ayres, lle y cyfarfyddasant a'r fintai o Gymru; yr oedd yr olwg arnynt yn gystuddiol a drwg eu cyflwr pan ddaethant atom, ac yn wrthddrychau tosturi mewn gwirionedd. Yr oedd rhai o honynt wedi cychwyn yn gefnog, un teulu a chanddo beiriant dyrnu ae amryw offerynau amaethyddol ereill, ond collasant y cyfan ond ychydig olwynion, ac yn wir collodd pawb bron yr oll ond y dillad oedd am danynt pan redodd y long i'r traeth. Derbyniodd rhai honynt garedigrwydd mawr yn Buenos Ayres.

PENOD XXI.—1873-1874, A'N HAROSIAD YN BUENOS AYRES

Gan fy mod yn absenol o'r sefydliad yn ystod y rhan fwyaf o 1873 a haner cyntaf 1874, nis gallaf fod yn fanwl yn nglyn a hanes y Wladfa yn yr adeg uchod. Y mae yn ymddangos i Captain Cox ddyfod yn ol gyda llong arall i ymofyn y llwyth a'r dwylaw a adawsai yno ar ol, ac iddo ddyfod a rhyw gymaint o nwyddau i'w gwerthu. Ymwelwyd a'r sefydliad y flwyddyn hon gan Esgob Sterling, perthynol i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys Esgobaethol Seisnig yn Ne America. Gelwid eu llong "Allen Gardener." Yr wyf yn deall i'r Esgob bregethu yno, bedyddio rhai plant, a phriodi un par ieuanc. Fel y sylwasom o'r blaen, cafodd y ddau ddyn ieuane John Griffiths ae Edmund Price gynhauaf toreithiog iawn y flwyddyn hon, fel yr oeddynt mewn ffordd i allforio swm pur fawr.

Ymwelwyd a'r Wladfa gan un Captain Wright yn y llong "Irene," a llwyddwyd ganddo i gymeryd y gwenith uchod i Buenos Ayres, ac hefyd rhoddwyd cludiad i Mr. Edward Price i fyned gydag ef i'w werthu. Dyma y tro cyntaf i wenith y Wladfa fyned i'r farcbnad, ac erbyn sefyll y farchnad yn Buenos Ayres, cyrhaeddodd uwch pris nac un gwenith arall. Wedi'i E. Price werthu ei wenith, a chael hamdden i edrych tipyn o'i ddeutu yn y ddinas, daeth o hyd i foneddwr ieuanc o Gymro o'r enw William Parry, yr hwn oedd fasnachwr parchus yn y ddinas, yn perthyn i dy a adnabyddid wrth yr enw Rook Parry & Co. Boneddwr o Lanrwst ydyw y Parry hwn, ac y mae yn Buenos Ayres hyd heddyw wrth