Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei anfantais, i'w ddewis o flaen y caethiwed diobaith yr oeddynt ynddo yn Nghymru. Peth arall, pe buasent yn ddynion ag arian yn eu llogellau, buasent oll wedi ymadael, pob un i'w ffordd ei hun yn ngwasgfeuon a digalondid y tymhorau methiantus, ac felly ni fuasai y Wladfa wedi ei pharhau, na dyffryn y Camwy wedi ei boblogi, na'r wlad wedi ei harchwilio, na mwnau yr Andes wedi eu darganfod. Pethau distadl a ddewisir yn barhaus i gynyrchu y pethau mawr, er profi mai Duw, ac nid dyn, sydd yn trefnu ac yn llywodraethu yn nadblygiad amgylchiadau dyrys y byd hwn. "Tawed pob cnawd ger ei fron Ef." Mintai wahanol iawn oedd un 1874. Yr oedd yn y fintai hon amryw ddynion pur gefnog o weithwyr—dynion oedd wedi manteisio ar gyflogau uchel i roddi cryn dipyn o'r neilldu. Yr oedd yn eu plith hefyd rai ffermwyr profiadol a deheuig. Yr oedd yn y fintai hon hefyd dri gweinidog yn perthyn i'r Annibynwyr, heblaw yr Ysgrifenydd, yr hwn oedd yn dychwelyd yn ol at ei deulu.

Yn mysg y fintai Americanaidd, yr oedd y Parch. D. S. Davies ar ymweliad a'r Wladfa, yr hwn cyn cychwyn oedd wedi bod a gofal yr eglwys Gymreig yn New York arno. Bu yni a gwroldeb y dyn hwn o fantais fawr i'r fintai anffodus ar ol y llongddrylliad, hyd nes cyraedd Buenos Ayres. Gweinidog arall oedd y Parch. J. C. Evans, Cwmamar, Aberdar, Deheudir Cymru. Yr oedd efe yn gredwr mawr mewn ymfudiaeth cenedl y Cymry a Gwladfa Gymreig, a bu yn fantais fawr i'r sefydliad fel Gwladfawr solog, gobeithiol, a chalonog ei ysbryd ar lawer adeg ddigalon, yn gystal ag fel gweinidog a phregethwr poblogaidd, ac y mae o dro i dro wedi dal prif swyddi y sefydliad, ac wedi bod yn flaenllaw gyda phob symudiad a dueddai at lwyddiant y Wladfa Gymreig yn y diriogaeth. Gweinidog arall yn y fintai hon oedd y Parch. David Lloyd Jones, Rhuthin, Gogledd Cymru. Yr oedd y boneddwr hwn wedi bod a rhan flaenllaw yn y symudiad Gwladfaol o'r cychwyn cyntaf yn Nghymru, ac wedi bod yn gydweithiwr ffyddlon a'r Parch. M. D. Jones, Bala, trwy y blynyddoedd. Pan yn weinidog defnyddiol a hynod boblogaidd mewn dwy eglwys Annibynol yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, rhoddodd yr eglwysi i fyny a bu am ddwy flynedd yn teithio ac yn areithio ar ymfudiaeth i Patagonia, ac hefyd i ffurfio Cwmni Masnachol ac