Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXII.—DECHREU CYFNOD NEWYDD.

Yr ydym erbyn hyn bron wedi dyblu rhif ein gweithwyr, ac felly mewn ffordd i wneud cymaint mwy o waith. Ar yr ochr ogleddol yn unig hyd yn ddiweddar yr oedd y sefydlwyr cyntaf wedi arfer hau, ond yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yr oeddynt wedi cael allan fod y tir ar yr ochr ddeheuol llawn mor hawdded i'w drin, ac yn debyg o roi gwell cnwd, felly yr oedd sylw y dyfudwyr newydd wedi ei dynu at yr ochr hon, ac yn awyddus i gael eu tyddynod yr ochr hon i'r afon. Mewn canlyniad i hyn, y mae y Cyngor yn penodi y boneddwr Edward Owen, Tyucha, ger Bala, i wneud rhyw fath o ranu ar y tir trwy dynu llinellau bob rhyw saith cant a haner o latheni o ogledd i dde o'r afon i'r bryniau ar yr ochr ddeheuol, am fod y rhan hon o'r dyffryn heb ei fesur, fel y cyfeiriwyd yn barod. Yn Chwefror 1875, cafwyd cynhauaf toreithiog, ac yr oedd pawb yn gefnog, a'r fintai newydd yn awyddus am rhyw lanerch o dir i ddechreu amaethu arno ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Yr oedd y rhan luosocaf o'r fintai newydd yn byw yn y dref hyd yn hyn, ond yn ymadael o un i un i'w ffermydd fel yr oedd y penau tenluoedd yn gallu dod yn barod gyda rhyw fath o dy i fyw ynddo. Yr oedd rhwng yr hyn a alwn ni y ddau ddyffryn yr ochr ogleddol lain gul o dir gwastad ar lan yr afon, a chraig o dywodfaen tu cefn iddo, ond gan ei fod morgul, nid ydoedd wedi ei fesur i fod yn ffermydd, ac felly yn cael eu ystyried fel comin; felly barnodd rhai o'r fintai newydd fod y lle hwn yn gyfleus i adeiladu tai arno, ac felly y gwnaethant, ac aeth dau deulu yno i fyw, sef y Parch. J. C. Evans, Cwmaman, a Mr. D. D. Roberts, o'r Unol Dalaethau. Gelwir y lle hwn Gaiman, yr hen enw Indiaidd a gawsom gyntaf arno.

Ail ffurfio yr eglwys.—

Yr oedd yr achos crefyddol wedi dyoddef, fel pob cylch arall, yn y blynyddoedd diweddaf. o angen gwaed newydd, a bu dyfodad y fintai hon fel ail. gychwyniad i'r achos erefyddol hefyd. Tua chanol Hydref 1874, cynaliwyd yn yr hen gapel bach diaddurn yn Nhrerawson gyfarfod pegethu, ac hefyd i sefydlu yr eglwys, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion D. Ll.. Jones, J. C. Evans, a D. S. Davies. Derbyniwyd llythyrau y fintai newydd, a gwahoddwyd unrhyw un o'r hen fintal