Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

berwyd y gweithfeydd yn nglyn a'r mudiad. Yr oedd peth arall yn ffafriol i ymfudiaeth diwedd y flwyddyn hon. Yr oedd y gweithfeydd yn ddiweddar wedi bod yn fywiog dros ben, a'r cyflogau yn anarferol o uchel, ond tua rhan olaf o 1875 yr oedd arwyddion gwaethygu ar bethau, ac yn niwedd y flwyddyn hon y bu y cloiad allan trwy bron yr holl weithiau. Mewn canlyniad i'r areithiau brwdfrydig, ac yn ngwyneb yr argoelion tywyllion oedd yn mlaen yn nglyn a'r gweithfeydd, penderfynodd lluaws mawr werthu allan, a dyfod i'r Wladfa, ac o fewn tri neu bedwar mis yn niwedd 1875 a dechreu 1876, daeth i mewn i'r sefydliad ar y Camwy yn ymyl 500 o ddyfudwyr o wahanol barthau o Gymru a'r Unol Dalaethau, ond yn benaf o ardaloedd y Rhondda ac Aberdar. Daeth mintai y Talaethau Unedig y tro hwo eto allan mewn llong fechan o'u heiddo eu hunain, ond ychydig, ond nid llawer mwy ffodus na'r fintai o'r blaen. Y mae yn wir iddynt lwyddo y tro hwn i ddyfod a'u llong i mewn i'r Camwy, ond nid heb lawer o helynt ar y ffordd, a thrwy rhyw ddyryawch aeth y llong wedi cyraedd yn gwbl o'u meddiant, ond nid oedd y golled yn fawr. Y mae yma yn awr yn nechreu 1876 tua 500 o ddyfudwyr newyddion yn ein plith, a dim haner digon o fara yn y sefydliad ar eu cyfer, am nad oedd yma gynhauaf y tymor hwn o herwydd na chodasai yr afon. Er ein bod wedi cael cnwd toreithiog y flwyddyn flaenorol, yr oeddid wedi ei werthu allan yn llwyr iawn cyn gwybod na chawsid cynhauaf y flwyddyn wed'yn, a chan fod y sefydlwyr a ymwelasant a Chymru wedi ymadael cyn gwybod hyn, a'r cymundeb a Chymru y pryd hwnw yn anghyfleus iawn, trwy nad oedd llong yn galw gyda ni ond anfynych, nid oedd neb i'w feio am yr anffawd hon. Y mae yn wir fod corff y minteioedd hyn yn weddol gefnog, ac yn perchen modd i brynu defnydd lluniaeth iddynt eu hunain ond ei gael i'r lle; ond ar yr un pryd, yr oedd yma amryw yn eu plith yn gystal ac yn mysg y rhai oedd yma o'r blaen, heb fod yn alluog i brynu cynaliaeth blwyddyn neu bymtheg mis. Mewn canlyniad i hyn, penderfynwyd anfon at y Llywodraeth unwaith eto i ofyn i'r Llywodraeth echwyna swm o arian i'r sefydlwyr hyn er iddynt allu pwrcasu lluniaeth iddynt eu hunain, a'u teuluoedd heb lymhau eu hunain yn ormodol. Yr oedd y Llywodraeth yr adeg hon wedi