Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trefnu gyda Chwmni Lampert & Holt, Lerpwl, i roddi cludiad rhad i deuluoedd tylodion i ddyfod allan i'r Camwy o Gymru, a chyda'r cludiad rhad hwnw yr oedd rhai wedi llwyddo i ddod allan. Trwy fod y minteioedd diweddaf hyn wedi dod trwy Buenos Ayres, canys nid ar unwaith y daethant ond yn fan finteioedd i Buenos Ayres, ac yna y Llywodraeth yn cytuno a llong i'w cymeryd i lawr i'r Camwy. Trwy eu bod yn dod trwy Buenos Ayres fel hyn, yr oedd yr awdurdodau yno erbyn hyn yn hysbys o sefyllfa y Wladfa, ac yn dechreu dod yn fyw i bwysigrwydd y sefydliad. Felly, cydsyniodd y Llywodraeth a'r cais am echwyn, ac anfonasant gyflawnder o ddefnydd ymborth i lawr. Yr oedd hefyd ystordy arall wedi ei godi yn y sefydliad gan Mr. J. M. Thomas, gynt o Merthyr Tydfil, ond a ymadawsai a'r sefydliad y flwyddyn gyntaf, ac a fuasai yn Buenos Ayres o hyny hyd yr adeg hon. Yr oedd y dyn ieuanc hwn wedi bod yn ysgrifenydd, ac wedi hyny yn arolygwr masnach i un Mr. F. Yonger, Ysgotiad cyfoethog yn Buenos Ayres, a thrwy gymorth ei feistr wedi dechreu masnach ar raddfa eang yn y Wladfa. Yr oedd ganddo ystordy mawr yno wedi ei wneud o goed, yr hwn a gymerodd dân yn y flwyddyn 1876, trwy yr hwn y dinystriwyd gwerth tua thair mil o bunau. Bu y ty masnachol hwn, yn nghyd a thy masnachol Meistri Rook Parry yn gyfleusdra mawr i'r sefydliad i gael nwyddau a'u llongau yn gyfryngau cymundeb a Buenos Ayres. Yn yr adeg hon hefyd yr oedd y Llywodraeth Archentaidd yn ymdrin a deddf ymfudiaeth, ac yn gweled fod yn rhaid iddynt wneud rhyw gyfnewidiad yn y ddeddf a wnaed yn 1862-3 yn nglyn a rhoddi tir i ddyfudwyr. Yr oedd y Parch. D. LI. Jones yn ystod ei arosiad hir yn Buenos Ayres, ar ei daith i'r Wladfa, wedi cael haundden i siarad llawer a Dr. Rawson yn nghylch y Wladfa, ae wedi bod yn awgrymu iddo amryw bethau yn nglyn a'r hyn a dybiai efe ddylasai fod deddf dirol y gwladfaoedd fod, ac y mae yn amlwg fod y Llywodraeth wedi mabwysiadu yn ei deddf newydd amryw o'r egwyddorion a awgrymodd. Nid oedd deddf 1862-3 yn rhoddi i'r dyfudwr ond 124 o erwau, yr hyn oedd yn llai nag a roddid gan unrhyw Lywodraeth mewn gwledydd newyddion, yn enwedig yr Unol Dalaethau, ond yn Medi 1875, pasiodd y Gydgyngorfa ddeddf newydd, yr hon oedd yn caniatau hyny allan