Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

248 o erwau i bob dyfudwr mewn oed, heb wahaniaeth yn nglyn a rhyw. Yr oedd y ddeddf hon yn cymeryd i mewn hefyd yr holl sefydlwyr oedd yn y lle ar y pryd, &c hefyd eu bod hwy i gael yr 124 erwau oedd ganddynt eisioes yn ychwanegol fel gwobr am sefydlu y lle. Mewn canlyniad i hyn, penderfynodd y Llywodraeth ffurfio yn y Wladfa fath o gynrychiolaeth iddi, canys hyd yn hyn, fel yr ydys wedi awgrymu yn barod, nid oedd y Llywodraeth Archentaidd wedi ymyraeth dim a'r sefydliad yn nglyn a'i lywodraethiad. Ar hyn o bryd, yr oedd amryw bethau yn galw am hyny, megys yr echwyn y cyfeiriasom ato, y cyfnewidiad yn neddf y tir, a'r angenrheidrwydd am ail fesuriad, yn nghyda chynydd cyflym y boblogaeth. Yr oedd y Llywodraeth er's rbai blynyddau cyn hyn wedi rhoi rhyw fath allu llywodraethol yn llaw Mr. Lewis Jones fel ei chynrychiolydd, ond ni ddaeth dim o hyny ar y pryd. Ond yn awr y mae yn penodi math o is-raglaw i fod a'i swyddfa yn y Wladfa. Italiad o genedl yw y swyddog hwn, o'r enw Antonio Oneto, ac yr ydoedd i fod yn gynrychiolydd y Llywodraeth yn y lle, ac yn gadeirydd y ddau fwrdd a benodid. Amcan y ddau fwrdd ydoedd, un i arolygu mesuriad y tir, rhoddiad allan y tyddynod i'r dyfudwyr, ae edrych fod y sefydlwyr yn dod i fyny ag amodau y Llywodraeth er hawlio gweithredoedd; ac amcan y bwrdd arall oedd arolygu yr echwyn oedd i'w roi i'r rhai mwyaf anghenus. Cynwysai y byrddau byn bump o aelodau bob un, a'r is raglaw yn gadeirydd yn y naill a'r llall. Penododd y Llywodraeth hefyd ynad heddwch a llywydd y Cyngor, ac er mwyn i bethau eistedd yn esmwyth a'r bobl oedd wedi arfer gwneud pob peth eu hunain mewn ffordd o ethol eu swyddogion, penododd y Llywodraeth i'r swyddau uchod y Cymry oedd ynddynt o'r blaen o benodiad y Gwladfawyr Cymry hefyd oedd aelodau y byrddau. Anfonodd y Llywodraeth hefyd i lawr ddyn ieuanc i fesur yr holl ddyffryn o bob tu i'r afon, yn ol y trefniadan newyddion, ond trwy ei ddiofalwch ef a goddefgarwch y bwrdd tirol, gwnaeth waith llibynaidd, anghywir, ac anorpheredig iawn, yr hyn a achosodd gryn lawer o anfoddlonrwydd yn mysg yr hen sefydlwyr, a llawer o helbul o bryd i bryd byth wed'yn, am na fu yn ddigon gofalus wrth dynu y llinellau, a gosod i lawr y pegiau terfyn. Ond o'r diwedd,