Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddyfnach ddyfnach i ddyled yn barhaus. Y mae llawer o feio wedi bod ar y masnachwyr hyn am roddi y fath goel, ac am godi y fath bris afresymol am eu nwyddau. Y mae yn ddigon gwir mai dull afiach o fasnachu ydyw rhoddi coel pen-agored a diamodol fel hyn, er nad yw o ran egwyddor ond y masnachwr yn sefyll yn fath o Fanc i'r prynwr, ond nad yw ar ffurf Banc, ac yn lle nodi y llog i'r benthyciwr, yn rhoi y llog i mewn yn mhris y nwyddau, ac felly yn gwneud i'r prynwr sydd yn talu i lawr am ei nwyddau dulu llog fel y benthyciwr, neu yr hwn sydd yn cael y coel. Yr hyn sydd deg yw gwerthu y nwyddau ar elw rhesymol i bawb, a gwneud i'r hwn sydd yn prynu ar goel dalu llog ar yr arian. Ond er i'r dull hwn o fasnachu wneud niwed anferth-niwed i'r prynwr ac i fasnach iachus yn y lle, eto y masnachwyr gafodd y niwed a'r golled fwyaf yn ddiameu. Wrth i ni edrych yn ol ar y cyfnod hwn, y mae yn anhawdd genyf ddirnad pa fodd y gallasai cynifer o ddynion tlodion ddechreu eu byd, a chael pethau angenrheidiol at drin eu tiroedd oni buasai i'r masnachwyr uchod roddi coel iddynt. Y mae yn wir fod yn mysg y sefydlwyr rai ag arian ganddynt wrth gefn, ond gan mai pobl ddyeithr i'w gilydd oedd y dyfudwyr, yr oedd yn anmhosibl i'r tlawd gael fenthyg, am nad oedd ganddo ddim tan ei ddwylaw, na neb yn gefn iddo, ac oni buasai fod y masnachwyr hyn yn rhyfygus o hyderus, ni fuasent byth yn rhoi cymaint o eiddo gwerthfawr allan yn nwylaw dynion heb un geiniog ar eu helw. Beth bynag ddywedir am y coel, ac am fasnachwyr y dyddiau hyny, rhaid i ni addef fod dadblygiad y Wladfa yn y blynyddoedd hyny i'w briodoli i raddau helaeth iddynt hwy, trwy eu gwaith yn rhoddi allan offerynau ac arfau amethyddol, yn gystal a nwyddau ereill, i ddyfudwyr tlodion i'w galluogi i ddechreu byw a thrin eu tiroedd. Gwnaed parotodau at hau yn gynarach y flwyddyn ganlynol, a llwyddwyd i gael gwell cnydau, ac felly yn Chwefror 1878, cafwyd llawer gwell a helaethach cynhauaf na'r flwyddyn flaenorol. Erbyn hyn yr oedd y sefydlwyr yn dechreu cael eu cefnau atynt, fel y dywedir, a'r minteioedd newyddion yn dechreu magu hyder yn y wlad. Pris isel oedd ar y gwenith y blynyddoedd hyn,