Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thrwy fod y nwyddau yn yr ystordai yn uchel, a llawer wedi myned i ddyled y blynyddoedd o'r blaen, yr oedd rhai eto heb ddim ond dechreu cael y ddau pen yn nghyd. Yn nhymor hau y flwyddyn hon, cododd yr afon yn amserol, a pharhaodd yn uchel trwy yr holl dymor, fel y cafwyd cyflawnder o ddwfr yn mbob man trwy y dyffryn, ac yn Chwefror 1879, cafwyd cynhauaf toreithiog, ac ar raddfa eangach nag erioed o'r blaen. Yr oeddis erbyn hyn wedi dwyn i mewn i'r sefydliad rai peirianau medi bychain, ond gyda phladuriau y torid y rhan fwyaf hyd yn hyn. Yr oedd y sefydlwyr erbyn hyn wedi dod yn weddol fedrus fel amaethwyr, er nad oeddynt yn Nghymru wedi arfer llawer ar dir, yn enwedig wedi iddynt dyfu i fyny, am mai mwnwyr a glowyr oedd y rhan luosocaf o honynt. Yn y blynyddoedd oedd wedi pasio, dyrnu yr yd oedd y drafferth fwyaf. Nid oedd yn y Wladfa, ac nid oes yno eto ysguboriau, ac yr oedd y syniad o ddyrnu â flyst allan o'r cwestiwn, mewn rhan, am ei fod yn waith caled iawn, ac hefyd yn waith annyben iawn, pan yr oedd angen dyrnu mor fuan ag yr oedd modd er mwyn cael yr yd i'r farchnad. Deuwyd yn fuan i wybod ychydig am arferiad De America yn nglyn a dyrnu, ae yr oedd rhai o honom wedi bod yn darllen an arferiad a dull pobl Affrica o ddyrna. Y dull a fabwysiadwyd yn y Wladfa i gychwyn oedd dull Affrica, a rhai manau yn Ne America. Gwnelid cyleh crwn, dyweder yn ddeuddeg llath ar ei draws, a dodid polyn yn y ddaear yn nghanol y cylch, ae yna rhoddid yr ysgubau yd frig yn mrig oddeutu yr ochr nesaf allan i'r cylch, a chyplysid tri neu bedwar o geffylau a thenyn a dolen arno, o benffrwyn y ceffyl nesaf i mewn am y polyn yn y canol, ac yna gwnelid i'r ceffylau hyn redeg ar hyd yr ysgubau hyn o amgylch, nes y llwyr ddyrnent y gronynau yd allan o'r tywysonau. Byddid yn aros yn awr ac yn y man er mwyn cael troi yr ysgubau neu y gwellt. Wedi dyrnu yr hyn a alwem lloriaid neu ddau fel hyn, yna ysgydwid y gwellt â phicfforch, a chodid yr yd i'r gwynt a phadell neu ogr i'w nithio. Cofied y darllenydd mai dull rhan gyntaf ac yn mlaen i ychydig dros haner y ganrif hon oedd y dull hwn yn Ne America, pan nad oeddid yn hau ar raddia eang, dim ond pob un yn cael digon o yd at ei