Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wasanaeth ei hun, ac ychydig feallai dros ben. Yn niwedd y flwyddyn 1876, neu ddechreu 1877, anfonodd Rook & Parry i lawr beiriant ager o waith Clayton and Shuttleworth, ac yn y flwyddyn ganlynol daeth J. M. Thomas a pheiriant ager arall yma. Bu y peirianau hyn o wasanaeth mawr ac yn hwylusdod anghyffredin i'r sefydliad.

Ond er fod genym erbyn hyn ddau beiriant yn cael eu gweithio âg ager, buwyd y flwyddyn hon hyd canol Medi cyn gorphen dyrnu, felly gwelir fod tymor hau wedi ein dal cyn i ni orphen dyrnu cnwd y flwyddyn flaenorol. Cododd yr afon yn gynar y tymor hwn eto; yn wir yr oedd erbyn diwedd Awst y flwyddyn hon yn uwch na chyffredin, fel y bu galwad ar y rhan luosocaf o'r sefydlwyr ddyfod allan i gryfhau a chadw manau gweiniaid ac isel yn ngeulan yr afon, rhag iddi dori drosodd a boddi y dyffryn o bob tu i'r afon. Yn y dyffryn uchaf, er pob ymdrech fe orlifodd y rhan fwyaf o'r dyffryn, a gorfu ar yr amaethwyr edrych am dir i hau arno y tymor hwnw ar y dyffryn isaf. Ond trwy fod cnwd y flwyddyn o'r blaen wedi ei ddyrnu cyn y gorlifiad rhanol hwn, ni chafwyd colled, ond yn unig achosi anhwylusdod i amaethwyr y dyffrvn uchaf yr ochr cgleddol. Wrth weled yr afon mor ffafriol, gwnaed ymroad y flwyddyn hon i hau yn helaeth, a buwyd yn hynod o ffodus trwy y tymor, ac yn Chwefror 1880, cafwyd cynhauaf ardderchog iawn mewn ansawdd ac mewn swm. Isel iawn, fel y nodwyd yn barod, oedd y gwenith wedi bod y ddwy flynedd, os nad y tair blynedd oedd wedi pasio, ond yn ffodus i ni cododd pris y gwenith y flwyddyn hon yn uchel iawn. Yr achos o'r cyfnewidiad sydyn hwn yn mhris y gwenith oedd methiant y cynhauaf y flwyddyn hon yn Patagones, ac yn nhalaethau gogleddol y Weriniaeth Archentaidd. Nid oedd y Weriniaeth Archentaidd y pryd hwn yn arfer allforio yd, yn enwedig gwenith, am nad ydoedd eto ond yn codi digon i gyflenwi ei hangen mewnol ei hun, felly nid oedd pris y gwenith y pryd hwnw fel y mae yn awr, yn cael ei lywodraethu gan farchnad fawr y byd, ond gan brinder neu lawnder cartrefol. Byddent y pryd hwnw, fel y maent eto ar brydiau, yn cael tymorau sychion yn rhai o dalaethau y Weriniaeth fel ag i achosi methiantau, gan nad oes ganddynt hwy fodd