Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y WLADFA GYMREIG.

PEN. I.—HANES Y SYNIAD AM WLADFA.

Mor bell ag yr wyf yn deall, dyn o'r enw Morgan Rhys, cyhoeddwr y greal cyntaf yn Gymraeg—"Y Cylchgrawn Cymreig 1793"—oedd y cyntaf i roi y syniad o Wladfa Gymreig mewn ffurf, trwy gymell ymfudwyr Cymreig i fyned allan i rywle yn Ohio, a myned allan ei hun. Wedi hyny bu John Mills, y cenhadwr at yr Iuddewon, yn son am Wladfa Gymreig yn Ngwlad Canaan; William Jones, brawd John Jones, Talysarn, wedi hyny am gael Gwladfa yn rhywle yn yr Unol Dalaethau; ac Evan Evans, Nantyglo, ac ereill gydag ef, am gael Gwladfa yn Brazil, De America, yr hyn a orphenodd drwy i fintai o Gymry fyned allan o Bryn- mawr a'r cylchoedd tua'r flwyddyn 1850. Os wyf wedi cael fy hysbysu yn gywir, sefydlodd y rhai hyn mewn lle a elwir Pilates, yn nhalaeth Rio Grande de Sul. Y mae yn ymddangos mai yn yr Unol Dalaethau y bu y syniad gryfaf ar y dechreu. Y mae genym hanes am Gymdeithasau Gwladfaol yn cael eu sefydlu yno o 1850 hyd sefydliad y Wladfa yn Patagonia. Bu cymdeithasau yn Oshkos, Wisconsin, New York, Philadelphia, ac yn San Francisco, California. Bu y cymdeithasau hyn yn awgrym gwahanol leoedd, megys Oregon yn y Talaethau Unedig, Vancouver's Island, rhanau o Awstralia, New Zealand, Uruguay, Brazil, a Phatagonia.

Nifer o Gymry yn San Francisco a enwodd Patagonia gyntaf fel lle i sefydlu Gwladfa Gymreig. Y rheswm paham yr oedd pobl yr Unol Dalaethau mor flaenllaw a brwd yn nghylch cael Gwladfa Gymreig ydoedd, mai