Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i allu dyfrio eu tir, fel y mae genym ni. Y mae y talaethau hyn hefyd yn agored i ystormydd dinystriol iawn ar ambell i dymor, a phrydiau ereill byddant yn cael colledion mawrion oddiwrth ymweliadau locustiaid; fel os dygwyddai y naill neu y llall o'r pethau hyn, byddai y gwenith yn uchel ei bris y flwyddyn hono. Cododd pris y gwenith y flwyddyn hon, ac i ran o'r flwyddyn ddilynol, o bedair punt a deg swllt i naw, deuddeg, a hyd ddeunaw punt y dynell. Bu i'r cnydau toreithiog diweddaf hyn, a'r pris uchel am dano, greu awydd yn y sefydlwyr i hau mwy bob blwyddyn, ac felly bu gorfod arnom alw i mewn wahanol beirianau ar lleihau llafur dwylaw. Yr oedd genym yn y blynyddoedd 1880, a 1881, chwech o beirianau medi bychain, y rhar yr oedd yn rhaid rhwymo ar eu holau, a thri o fedelrwymwyr, neu beirianau yn tori y gwenith ac yn ei rwymo, a dau beiriant ager at ddyrnu, a dau beiriant dyrnu bychain yn gweithio gyda cheffylau. Achosodd methiant hollol 1876, a methiant rhanol 1877 i lawer o finteioedd 1875-6 ddigaloni a myned ymaith o'r lle, a llawer ereill yn anfon yn ol i Gymru achwyn ar eu byd, ac yn rhoi anair i'r wlad, ond bu llwyddiant y blynyddoedd dilynol ail godi hyder yn mhobl Cymru yn nglyn a'r Wladfa, fel y daeth minteioedd bychain allan drachefn yn 1880-1 Erbyn diwedd 1881 yr oedd bron bob tyddyn mesuredig ar ddyffryn y Camwy wedi eu cyneryd, a rhai yn sefydlu ar ddarnau o dir ydoedd hyd yn hyn heb eu mesur, o herwydd diofalwch ac anwybodaeth y tir-fesurydd yn benaf, ond a fesurwyd wedi hyny, ac a droisant allan yn dyddynod enillfawr. Yn Chwefror 1882, fe'n siomwyd eto gan yr afon, fel na chafwyd y tymor hwn ddim cynhauaf, ond rhyw nifer fechan o dynelli yn y dyffryn isaf, a godwyd gan un tyddynwr, trwy iddo allu codi dwfr o'r afon gyda pheiriant ager a sugnedydd.

PENOD XXIV.—ADOLYGIAD AR Y CYFNOD DIWEDDAF o 1874 i 1881.

Y Dadblygiad Amaethyddol.—Dechreuwyd yn 1874 gyda chymaint arall o weithwyr ag oedd genym cyn hyny, ac yn mhen tua phymth mis lluosogwyd y