Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y llongau, nid oedd modd myned i lygad y ffynon i Buenos Ayres i brynu heb i gludiad y prynwr ai nwyddau fwyta i fyny y fantais. Yr oedd pris cludo tynell o wenith i Buenos Ayres y pryd hwnw yn bum' swllt ar bugain; yr oeddym yn talu yn agos gymaint arall am gario tynell o wenith i Buenos Ayres, rhyw saith can' miildir, ag ydoedd cludiad yr un faint o Buenos Ayres i Lerpwl, yr hyn oedd dros chwe mil o filldiroedd. Yr oedd y blynyddoedd llwyddianus diweddaf wedi dwyn i mewn i'r sefydliad lawer o arian, a rhai yn dechreu troi tipyn o'r neilldu. Ein harian treigl y pryd hyn fel yn awr ydoedd arian papyr y Weriniaeth Archentaidd y ddoler a'r cent, new ddime. Y peth gwaethaf yn nglyn a'r rhai hyn yw eu bod yn newid yn eu gwerth yn ol fel y bydd safle y Llywodraeth yn arianol, hyny yw, yn ol fel y bydd y Llywodraeth yn meddu ymddiriedaeth, neu na bydd. Gwelsom cyn hyn y ddoler bedwar swllt wedi myned i lawr yn ei gwerth mor isel a dwy geiniog, a gwelsom hi yn codi wedi hyny i'w phris priodol.

Y Wladfa yn Wleidyddol—

Am yr wyth mlynedd gyntaf, fel y sylwasom yn barod, gadawyd y sefydliad i wneud fel y mynai yn nglyn a'i lywodraethiad, ond ar ol y lluosogiad yn 1875—6, anforwyd i lawr atom y prwyad Antonio Oneto. Bu efe yn ein mysg am bedair neu bum' mlynedd, ac ymddygodd ar y cyfan yn bur ddoeth. Yr oedd yn ddyn o ddysg, ac yn feddianol ar synwyr cyfiawn, ac yn meddu craffder yr eryr. Buom yn ffodus iawn i'r dyn hwn ddamweinio cael ei anfon i'n mysg dan yr amgylchiadau yr oeddym ynddynt ar y pryd. Peth pur anhawdd a chynil oedd tori pobl oedd wedi arfer llywodraethu eu hunain am ddeg mlynedd—eu tori i mewn i lywodraethiad estronol. Yn ystod y chwe' blynedd rhwng 1876 ac 1882, llywodraethid y sefydliad gan fath o lywydd o honom ein hunain, deuddeg o Gyngor, Ynad Heddwch, ysgrifenydd, a chofrestrydd, a'r prwyad Archentaidd. Yr oedd y llywydd, neu fel yr ystyrid ef, cadeirydd y Cyngor a'r ynad yn cael eu cydnabod gan y Llywodraeth Genedlaethol, ond yr oedd y Cyngor a'r swyddogion hyn yn ddarostyngedig i'r prwyad; yn wir, yn ystod y tymor trawsffurfiol hwn yr oedd gweinyddiadau y swyddwyr uchod yn fwy o oddefiad y prwyad nac o awdurdod. Ymddygodd y prwyad er hyny mor ddoeth a