Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diymyraeth, fel ra theimlodd y swyddogion uchod unrhyw anfantais oddiwrtho yn eu gweinyddiadau; ymfoddlonodd ef ar fyw yn dawel, a gadael i'r sefydlwyr wneud y gwaith, ac iddo yntau dderbyn y tâl, i'r hyn nid oedd gan neb wrthwynebiad. Wedi ymadawiad Mr. Oneto, bu gyda ni ddau neu dri o brwyadwyr gweiniaid ac annoeth am ychydig amser, ond cadwyd heddwch cydrhyngddynt a'r sefydlwyr, a chariwyd pethau yn mlaen ar y cyfan yn bur ddidramgwydd. Tua diwedd y cyfnod hwn, cymerodd amgylchiad torcalonus iawn le yn ein mysg. Dygwyddodd i gymeriad amheus ddyfod i'n plith, yr hwn a drodd allan i fod yn ffoadur o un o'r carcharau perthynol i Chili. Yr oedd hwn wedi llwyddo i gael ceffyl, ac wedi teithio canoedd lawer filldiroedd dros y paith i ddyfod atom. Pan ddamweiniai cymeriadau ambeus ddyfod i'n plith, byddem yn ofalus i'w cymeryd i'r ddalfa, a chadw math o brawf arnynt, ac os methent a chyfiawnhau eu hunain, byddem yn eu hanfon ymaith gyda'r llong gyntaf a adawai y porthladd i Buenos Ayres. Yr oedd yn ein plith ddyn o'r enw Aaron Jenkins, o Troedyrhiw, Merthyr Tydfil, Deheudir Cyniru. (Y mae ei enw wedi cael ei goffhau yn barod). Dyn hynod barod a chymwynasgar i wneud unrhyw beth a allai mewn ffordd o wasanaethu y cyhoedd, a phawb arall a fyddai mewn angen. Penodwyd ar y dyn hwn i fyned i'r Gaiman, a chymeryd i'r ddalfa y crwydryn uchod. Wrth ddod i lawr tua Threrawson, mewn lle unig ar y ffordd, gan nad oeddid wedi rhoi ei ddwylaw mewn gefynau. llwyddodd i fratbu yr heddwas Aaron Jenkins â chyllell o'r tu ol, a syrthiodd i lawr yn farw, a diangodd y llofrudd ar geffyl y llofruddedig. Mor fuan ag y daeth y ffaith alarus yn hysbys, cododd yr holl wlad yn ddigofus i erlid y llofrudd, ac yn mhen deuddydd cafwyd ef yn ymguddio mewn trofa ar lan yr afon, lle yr oedd besg tewion, ac mor gynted ag ei gwelsant, yr oedd y teimladau mor ddigofus, fel y saethwyd ef yn y fan, a chladdasant ef lle y syrthiodd. Claddwyd Aaron Jenkins yn barchus ar ei dyddyn, yn ol ei ddymuniad, a chodwyd colofn o farmor ar ei fedd, ac arni yn gerfiedig pa fodd y syrthiodd.

Y Wladfa yn Gymdeithasol.—Yr oedd cynydd masnach, a chynydd y boblogaeth wedi effeithio yn ddaionus ar gymdeithas, fel y gellid dysgwyl. Yn ystod y naw