Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbryd enwadaeth yr Hen Wlad, fel nad allent feddwl am uno. Y rhai cyntaf i droi allan ydoedd nifer o Fedyddwyr, ac wedi hyny y Methodistiaid Calfinaidd. Ffurfodd y rhai hyn bob un eglwys yn ol eu ffurf eu hunain. Nid oedd gan y ddau enwad hyn weinidogion yn eu mysg, ond yr oedd gan yr Annibynwyr bedwar o weinidogion, sef y Parchu. D. Ll. Jones, J. C. Evans, a W. Morris, myfyriwr o Goleg y Bala, a ddaethai i'r lle yn nechreu y flwyddyn 1876. Daeth atom hefyd yn nechreu y flwyddyn 1882 weinidog Annibynol arall—y Parch. R. R. Jones, Newbwrch, Môn. Ni fu y ddau enwad arall yn hir cyn cael pob un weinidog i'w plith, sef yn gyntaf y Parch. W. C. Rhys at y Bedyddwyr, a'r Parch. William Williams at y Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y boneddwr blaenaf yn frodor o'r Taibach, ger Port Talbot, ond cyn ei ddyfod allan, yn weinidog gyda'r Saeson yn Pembroke Dock, a'r olaf yn frodor o Môn, ac wedi bod yn fath o genhadwr cartrefol ar gyffiniau clawdd Offa. Gan mai eglwysi bychain sydd yn y Wladfa, a hyny am fod y boblogaeth yn deneu, o herwydd fod y ffermydd yn fawrion, y mae un gweinidog yn cymeryd gofal dwy neu dair o eglwysi. Y mae y gweinidogion fel rheol hyd yn hyn hefyd yn berchen pob un ei fferm fel rhywun arall, ac yn byw yn benaf ar elw ei lafur ar y fferm, ac yn gadael i'r eglwysi roi rhywbeth iddynt a welont yn dda. Yr oedd yn ein nysg hefyd cyn diwedd y cyfnod hwn dair neu bedair o ysgolion dyddiol. Yr oedd un, ac weithiau ddwy o honynt yn cael eu cynal gan y Llywodraeth Genedlaethol, a'r cwbl ynddynt yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr Yspaenaeg, ond y lleill yn cael eu cynal trwy roddion gwirfoddol y sefydlwyr, vn y rhai y dysgid pob peth trwy y Gymraeg.

Iechyd y Wladfa.—Y mae y sefydliad ar y Camwy wedi bod yn hynod o iach fel rheol. Y mae sychder yr awyr, a sychder y tir yn peri fod yr awyr yn glir, a'r haul yn wastad yn y golwg haf a gauaf, fel yr ystyrir Patagonia yn un o'r lleoedd iachaf ar y ddaear. Nid oes hanes ar faes llenyddiaeth am ddynion wedi myned trwy gynifer o wasgfeuon, ac mor lleied o farwolaethau wedi cymeryd le, ac wedi byw hefyd mor iach trwy y blynyddoedd. Y mae yn wir i Ddoctor ddyfod allan gyda'r fintai gyntaf, ond ymadawodd yn mhen tri mis, ac o hyny hyd yn ddiweddar, ni fu genym feddyg proffesedig yn ein mysg.