Tudalen:Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn ein mysg o'r cychwyn ddyn o'r enw Rhydderch Huws, a ddaethai allan o Fanceinion, yn arfer cynorthwyo mewn afiechyd trwy feddyginiaethau llysieuol. Bu y Parch. D. LI. Jones hefyd yn ddefnyddiol iawn yn y cyfeiriad hwn am flynyddoedd, ac hefyd un o'r enw John Williams, saer wrth ei alwedigaeth, genedigol o Dolwyddelen. Yr oedd y ddau foneddwr diweddaf yn ffodus iawn i drin esgyrn a doluriau. Un anfantais fawr i iechyd y lle fu dull y sefydlwyr o ddarparu eu bwydydd. —rhy fychan lawer o amrywiaeth yn y goginiaeth. Y mae hyn i'w briodoli mewn rhan ar y dechreu o herwydd prinder defnyddiau amrywiaeth, am fod y sefydlwyr ar rai adegau wedi gorfod byw bron yn hollol ar gigfwyd, ac wedi hyny am flynyddoedd heb nemawr o lysiau. Y prif ymborth oedd bara ac ymenyn, a chig wedi ei ffrio, a the. Y mae yn wir fod genym gyflawnder o laeth, ond ychydig mewn cydmariaeth o fwyd llaeth a arferid, ac yn wir a arferir eto yn y sefydliad, ac oni buasai am hinsawdd iach y wlad, y mae yn ddiameu y buasai llawer mwy o afiechyd yn y lle. Ni fu yn ein plith hyd ddiwedd y cyfnod hwn unrhyw glefyd na haint, ond y pas a'r frech goch, ond ni fu y rhai hyn yn farwol i neb, mor belled ag y cofiwn. Y mae y Wladfa wedi bod yn llesiol iawn i bobl a'r fogfa wlyb arnynt, ac yn lle rhagorol rhag darfodedigaeth a chryd cymalau.

PEN. XXV.—CYFNOD Y TRYDYDD O 1882 I 1887.

Dyma ni yn awr wedi dod i'r ail flwyddyn ar bymtheg er dechreuad y Wladfa ar y Camwy. Rhaid i ni o hyn allan beidio ymdroi gyda manylion, ond cymerwn dan sylw y prif ddygwyddiadau. Yr ydym wedi awgryma yn barod i gynhauaf dechreu 1882 fyned yn fethiant yn y dyffryn isaf o ddau tu i'r afon. Nid oedd pobl y dyffryn uchaf yr ochr ogleddol yn gallu cael ffosydd yn uniongyrchol o'r afon gyferbyn a'u tyddynod mor hawdded a phobl y dyffryn isaf, ac felly yn cael colledion yn amlach. Parodd hyn iddynt benderfynu i gael camlas i arwain dwfr i'w tyddynod o ben uchaf y dyffryn, ac wrth weled nad oedd argoelion codi ar yr afon yn gynar yn 1881, aethant ati o ddifrif i ddechreu